Cynhaliwyd noson wobrwyo flynyddol Ysgol y Preseli yn Theatr y Gromlech er mwyn anrhydeddu cyn-ddisgyblion a disgyblion yr ysgol ar eu llwyddiannau.

Llywyddwyd y noson gan gadeirydd y llywodraethwyr Mr Des Davies a thraddodwyd yr anerchiad blynyddol gan y pennaeth Mr Michael Davies.

Y wraig wâdd eleni oedd y Fns Emily Davies, cyn-ddisgybl o’r ysgol sydd wedi gwneud ei marc ym myd busnes fel entreprenerwraig a chyfathebwraig effeithiol. Cafwyd ganddi anerchiad didwyll a byrlymus.

Emily hefyd fu’n gyfrifol am gyflwyno’r tystysgrifau a’r gwobrau yn ystod y noson.

Mwynhawyd eitemau gan barti llefaru iau yr ysgol a hefyd datganiad cerddorol gan y parti merched iau. Diolchwyd i Mrs Rh Davies am hyfforddi’r parti llefaru ac Mr T Phillips a Mrs M Williams am hyfforddi’r parti canu.

Cydlynwyd y dosbarthu gwobrau gan ddirprwy’r ysgol, Mrs Iola Phillips. Gwnaethpwyd y diolchiadau gan brif swyddogion yr ysgol sef Efa Bowen a Caleb Nicholas.

Mrs Marie Williams oedd yn gyfrifol am y blodau a Mrs Delyth Davies a’i thîm o weithwyr fu’n gyfrifol am y lluniaeth ysgafn blasus ar ddiwedd y noson. Diolchwyd iddynt am eu cyfraniadau i’r achlysur eleni eto.

Diolchwyd hefyd i’r staff gweinyddol am gwblhau drefniadau’r noson mor effeithiol ac i’r tîm technegol/parcio am eu cymorth. Aeth diolch arbennig yn ogystal i holl noddwyr y gwobrau am eu haelioni o flwyddyn i flwyddyn.