Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Rhydlewis a'r Cylch ar Chwefror 22.

Er i nifer y gynulleidfa a'r cystadleuwyr fod yn llai nag arfer cafwyd eisteddfod hwylus ac o safon uchel iawn yn ôl y beirniaid.

Y beirniaid eleni oedd – cerdd Catrin Darnell; adrodd a llenyddiaeth Eurig Salisbury; arlunio i blant Gwen Davies; llenyddiaeth y plant Emyr Davies a'r cyfeilydd oedd Gareth Wyn Thomas.

Llywydd y dydd oedd y Cyng Gwyn James a chafwyd ganddo anerchiad pwrpasol iawn. Diolchwyd iddo am gyfraniad hael iawn i gronfa’r Eisteddfod.

Arweinyddion y dydd oedd Rhian Lloyd, Alwyn Ward, Siwsan Davies a Gareth Evans. Enillwyd y gadair yn rhoddedig gan Gware Crug yr Eryr gan y Parch Judith Morris, a Thlws Llenyddiaeth yr Ifanc gan Caerwen Richards.

Cipiwyd yr her unawd, sef Tarian Her Tom a Peggy Rees, gan y Parch Aled Williams, a'r her adroddiad a Chwpan Her Hilary Jones gan Sioned Howells.