Daeth rhyw ddeugain i Gaffi Emlyn, Tan-y-groes, i ddathlu Gŵyl y Mabsant a mwynhau eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion ar Fawrth 2.

Ar ôl cawl a phwdin cyflwynodd llywydd y gymdeithas Carol Byrne Jones y beirniad, y Prif Lenor Eurig Salisbury, Prifysgol Aberystwyth, i’r gynulleidfa.

Traddododd ei feirniadaeth ar un dasg ar ddeg, gan gynnwys y gystadleuaeth am Wobr Goffa Pat Neill.

Unwaith yn rhagor, roedd Roni Roberts, y grefftwraig o Felin-wynt, wedi llunio cadair fach hardd i enillydd y gystadleuaeth hon ei chadw.

Eleni roedd hi wedi cerfio’r gadair allan o ddarn arbennig o goed derw ac iddi drôr bach o goed cedrwydd persawrus.

Uchel oedd y gymeradwyaeth wrth i Philippa Gibson, Pontgarreg, godi i ychwanegu y wobr hon i’w chasgliad o’r fath gadeiriau cywrain.

Am y tro cyntaf eleni roedd pob cystadleuaeth yn agored nid yn unig i aelodau’r gymdeithas ond i bawb.

Manteisiodd Rachel James (Crymych) ar y newid trwy ennill tair cystadleuaeth, un yn rhagor na’r enillydd cyson Dai Rees Dafis, Rhydlewis.

Arbrawf arall a gyflwynwyd gan y llywydd oedd cystadleuaeth i ddisgyblion ysgol ac aeth y wobr hon i Lefi Aled Dafydd, Ysgol y Preseli, Eglwyswrw, ŵyr i Rachel!

Enillwyr eraill yn yr adrannau barddoniaeth oedd Jon Meirion, Llangrannog (cystadleuaeth yr emyn,) a Philippa Gibson eto (englyn). Rhoddwyd y wobr am y gerdd orau ar draws yr holl adrannau i Jon.

Yn yr adrannau rhyddiaith enillodd Siân Wyn Siencyn, Talgarreg, ddwywaith, Mari Wyn, Castellnewydd Emlyn am ei dyddiadur a Sioned Bowen (Llanfihangel-ar-arth) ar y stori fer.

Cipiodd Sioned, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, y cwpan am y darn gorau o ryddiaith drwyddi draw.

Daeth Carol Byrne Jones â’r noson i’w therfyn wrth ddiolch i Eurig, y cystadleuwyr, y caffi ac i’r gynulleidfa am ei gwneud hi’n achlysur pleserus dros ben.