Cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar ddydd Sadwrn, Ionawr 26, yn Ysgol Gynradd Nantgaredig.

Cafwyd gwledd o gystadlu mewn pedair adran wahanol gyda nifer fawr o glybiau’r sir yn cystadlu. Diolchwyd i'r ysgol, i’r stiwardiaid am sicrhau fod y diwrnod yn rhedeg yn llyfn, i’r holl hyfforddwyr ac y beirniaid am eu gwaith gwych yn ystod y dydd.

ADRAN DDARLLEN

Mrs Enfys Evans gafwyd y dasg o feirniadu wyth tîm yng nghystadleuaeth y darllen o dan 14.

Tîm buddugol: CFfI Llanfynydd – Gwenno Roberts, Tomos Roberts a Ffion Raymond.

Unigolyn: Gwenno Roberts, CFfI Llanfynydd.

ADRAN IAU

Mrs Enfys Hatcher Davies oedd â’r dasg o feirniadu, gyda 10 tîm yn cystadlu mewn cystadleuaeth o safon uchel. Dyma’r canlyniadau:

Cwpan Teulu Pantyffynnon i’r tîm buddugol: CFfI Llanfynydd – Betsan Campbell, Lois Cambell a Gwenno Roberts.

Cwpan Teulu Ffosyffin am yr Unigolyn Gorau: Cerys Thomas, CFfI Dyffryn Tywi.

ADRAN GANOL

Mr Hefin Jones oedd yng ngofal yr adran ac roedd wyth tîm yn y gystadleuaeth.

Cwpan Alun James Ysg i’r tîm buddugol: CFfI Penybont – Hannah Richards, Daniel O’Callaghan, Lleu Pryce a Cadi Evans.

Tarian Mr Emyr Williams am yr unigolyn gorau: Daniel O’Callaghan, CFfI Penybont.

ADRAN HŶN

Cafwyd cystadleuaeth dda iawn yn y gystadleuaeth yma rhwng chwe thîm cryf iawn. Mr Wyn Thomas oedd gyda’r dasg o feirniadu.

Cwpan y diweddar Henadur S O Thomas i’r tîm buddugol: CFfI Dyffryn Cothi – Carwen Richards, Sulwen Richards a Lynwen Mathias.

Cwpan Pat Davies i’r unigolyn gorau: Mared Evans, CFfI Penybont.