MAE Cylch Meithrin Hermon wedi derbyn arolwg da gan Estyn yn ddiweddar.

Dyfarnwyd bod y cylch yn dda gyda dwy elfen o ragoriaeth yn y meysydd gofal, cymorth ac arweiniad a gweithio mewn partneriaeth. O ganlyniad mae’r cylch wedi paratoi astudiaeth achos a fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo arfer dda ym maes addysg y blynyddoedd cynnar.

Meddai’r adroddiad: "Mae gan yr arweinwyr weledigaeth glir i ddatblygu lles y plant, a chryfhau’r ddarpariaeth.

"Mae’r ddarpariaeth yn sicrhau ffocws dyddiol ar godi safonau ieithyddol y plant yn arbennig gan fod llawer yn cychwyn yn y lleoliad yn ddi-Gymraeg.

"Mewn byr dro, mae’r arweinwyr newydd yn cydweithio’n fuddiol gydag ymarferwyr eraill ac yn dechrau rhannu cyfrifoldebau arwain yn bwrpasol. Mae’r staff yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau’n llawn ac yn cydweithio'n effeithiol fel tîm.

"Trwy gyd-gynllunio pwrpasol, mae’r ymarferwyr yn darparu amrywiaeth o brofiadau dysgu diddorol ac ysgogol sy’n bodloni egwyddorion y cyfnod sylfaen yn llwyddiannus."

Ym mis Hydref llynedd, enillodd y cylch un o wobrau cenedlaethol Mudiad Meithrin am ei defnydd o Dewin a Doti, sef cymeriadau’r mudiad, o fewn y cylch. Amlygwyd gwerth defnyddio’r cymeriadau yma ynghyd â ‘Colin y Crwban’ yn adroddiad Estyn.

“Mae’r bartneriaeth ardderchog gydag athrawon ymgynghorol yr awdurdod lleol a swyddog y Mudiad Meithrin yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y ddarpariaeth ac arweinyddiaeth y lleoliad," medd yr adroddiad.

"Mae’r lleoliad wedi cyfuno'r hyn maent wedi dysgu am sut i ddatblygu lles plant trwy hyfforddiant gan y ddau gefnogwr hyn yn llwyddiannus iawn er mwyn cael plant i rannu teimladau trwy ymateb i bypedau."

Mae’r Cylch yn cwrdd yng Nghanolfan Hermon bob bore Llun, Mawrth, Mercher a Iau o naw hyd 12 o’r gloch. Os oes diddordeb gan rieni lleol i ddanfon eu plant i’r cylch meithrin yna croeso i chi gysylltu a’r arweinydd, Bethan James ar 07805 514441.