MAE'R awdur Eirwyn George wedi lansio ei lyfr dwyieithog newydd ar blwyf Castellhenri. Mae'r gyfrol yn cynnwys hanes yr hen gastell tomen a beili, Eglwys Sant Brynach, y capeli, Ysgol Garnochor (sydd bellach wedi cau), amaethyddiaeth, y busnesau lleol, cysgod dau Ryfel Byd, teuluoedd nodedig, llên gwerin, yr eisteddfodau, talentau amrywiol, a llawer mwy.

Gyda dros 60 o ffotograffau mae cyfoeth o wybodaeth yn cael ei gyflwyno'n ddiddorol mewn arddull goeth a darllenadwy.

Brodor o blwyf Castellhenri yw Eirwyn a bu'n gweithio ar y tir am 12 mlynedd, yn fyfyriwr yng Ngholeg Harlech a Choleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn athro Cymraeg a hanes yn Ysgol Uwchradd Arberth ac Ysgol Gyfun i Preseli, a hefyd yn llyfrgellydd gweithgareddau yn Llyfrgell y Sir yn Hwlffordd.

Enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a chyhoeddi 20 o gyfrolau yn cynnwys barddoniaeth, hanes, llyfrau taith a hunangofiant. Mae'n briod â Maureen ac yn byw ym mhentre Maenclochog.

Mae Braslun o hanes Plwyf Castellhenri - A brief history of Henry's Moat Parish ar gael am £6 ac mae ar werth mewn siopau lleol.