ROEDD achos dwbl i ddathlu pan ymunodd cynulleidfa Bethania, Aberteifi, â thrigolion Cartref Glyn Nest i gynnal oedfa ddiolchgarwch am y cynhaeaf yn ddiweddar.

David Peregrine oedd wrth yr offeryn ac yr oedd y Sul hwn yn un arbennig yn ei hanes gan mai hanner can mlynedd yn union yn ôl y cychwynnodd ar ei waith fel un o organyddion Bethania.

Ond roedd yna gyd-ddigwyddiad arall, oherwydd mai’r Parch Islwyn Davies, sydd bellach yn preswylio yng Nglyn Nest, ac yn bresennol yn yr oedfa, oedd yn gwasanaethu ym Methania ar y Sul cyntaf o Hydref 1968.

Felly gwelwyd y ddau yn yr un oedfa hanner canrif yn ddiweddarach. Yn ystod yr oedfa canwyd yr emyn-dôn ‘Preseli’ o waith y ddiweddar Joan Osborne Thomas, sef yr un ysgogodd David i gychwyn fel organydd.

Llywyddwyd y gwasanaeth gan y gweinidog,y Parch Irfon C Roberts a phregethwyd ganddo ar y testun ‘Chwi yw halen y ddaear’.

Bu Glenys Jones, Mair Morris, Elfair James a Rhidian Evans yn cynorthwyo drwy ddarllen o’r ysgrythur, gweddïo, adrodd a chanu a braf o hyd yw clywed lleisiau’r deiliaid yn ymuno.

Diolchwyd i bawb am yr oedfa gan Jean Thomas a Freda Pierce ac ar ei chais ymunwyd i ganu emyn arall cyn diweddu ac yna cafwyd cyfle i sgwrsio’n hamddenol a chael lluniaeth flasus fel arfer.

Y Sul canlynol, a hithau’n oedfa gymun ym Methania cafodd yr eglwys gyfle i anrhydeddu a diolch i David Peregrine am eu ffyddlondeb wrth yr organ ers hanner canrif yn ddi-dor.

Cyn gweinyddu’r cymun galwodd y Parch Irfon Roberts David ymlaen i dderbyn cyfarchion yr eglwys a rhodd o gerdd wedi ei fframio o waith bardd lleol, Ken Griffiths,Y Graig. Gofynnwyd iddo ddarllen ei waith cyn cyflwyno’r rhodd:

Am ichi yn ddiamod

Roi crefydd ym mhob cân,

Gan gyfoethogi’r emyn

 gwres y dwyfol dân,

Ac wrth i’r nodau ddisgyn

Mor bersain ar ein clyw,

Mi fedrwn ninnau dystio

Eich bod yn was i Dduw.

Oherwydd ffyddlondeb David at bob agwedd o waith yr eglwys bu’n dipyn o gamp i gadw’r gyfrinach ond fe lwyddwyd ac wedi iddo ddod dros y syndod fe ymatebodd gan ddiolch am y cyfle i fod yn organydd ac am y gydnabyddiaeth.

Yn ogystal diolchodd y gweinidog i Mair Wilson a Rhidian Evans am eu cyfraniad hwy fel organyddion gan nodi nad oes yr un Sul ers iddo ddod yn weinidog i Fethania heb fod rhywun wrth yr offeryn.

Llongyfarchiadwyd i David Peregrine a diolchwyd hefyd fod yna bobl o hyd sydd yn barod i roi o’u hamser a’u doniau i'r achos.