Roedd dydd Sul, Hydref 28, yn ddyddiad pwysig arall yn hanes Eglwys Llangeler gan fod Ken Rees yn dathlu 60 mlynedd o wasanaeth fel organydd yno.

Yn ystod y gwasanaeth cyflwynodd Valmai Owen fodrwy aur i Ken ar ran aelodau a ffrindiau'r eglwys ar yr achlysur hapus gan ddangos ein gwerthfawrogiad o'i ffyddlondeb.

Dywedodd Valmai ei bod yn bleser ganddi gyflwyno'r anrheg iddo gyda diolch diffuant a gobaith y byddai'n medru cario ymlaen am amser hir eto gan gofio fod Ken yn teithio ymhob tywydd ac ar wahanol amserau i'r gwasanaethau.

Cofiai Valmai am yr adeg hapus y bu'r ddau yn cyd-weithio fel organyddion, ond oherwydd afiechyd bu raid iddi roi'r gorau i'w swydd.

Cofiai hefyd am ei mam yn dod adre o'r cwrdd un dydd Sul a dweud: "Ma crwt bach ifanc eisiau cael ymarfer ar yr organ." Mynegai diolch bod Ken wedi ymarfer digon a'i fod yma o hyd.

Wrth dderbyn geiriau caredig Valmai fe wnaeth Ken ymateb drwy ddiolch i bawb am eu haelioni a'r pleser y mae wedi ei gael dros y blynyddoedd. Yn rhyfedd iawn ar ddydd Sul Hydref 28, 1958, sef 60 mlynedd i'r diwrnod y dechreuodd ganu'r organ yn yr Eglwys. Mae hefyd wedi bod yn organydd yng Ngŵyl Calan Hen dros yr un cyfnod, ac ers y 60au yn organydd yng Ngŵyl Gorawl y Ddeoniaeth.

Gorffennwyd y gwasanaeth, a oedd dan ofal y Parch Beth Davies, drwy ganu yr union emyn a ganwyd ar y Sul cyntaf iddo chwarae yn ôl yn 1958.