Mae cynllun ar y gweill i godi carreg goffa i'r bardd, Comiwnydd a Christion Niclas y Glais yn y Preselau.

Mae Pwyllgor Codi Cofeb Niclas y Glais yn bwriadu codi'r gofeb ar dir comin Crugiau Dwy uwchben hen gartref T E Nicholas ym Mhentregalar, ger Crymych, ar ddydd Sadwrn, Hydref 5, 2019, i gyd-daro â diwrnod ei benblwydd trannoeth. Fe’i ganwyd 140 mlynedd yng nghynt.

Mae'r pwyllgor wedi clustnodi llecyn a charreg addas, a fydd yn cael ei gosod ar ei gorwedd gyda phlac arni, a charreg lai wrth ei hymyl wedyn yn nodi manylion ei yrfa.

Geiriad y prif blac fydd: T. E. Nicholas (Niclas y Glais) 1879 – 1971, Bardd, Comiwnydd a Christion, “Bardd y Werin ydwyf fi”.

Sefydlwyd cronfa'n barod i dalu cost cludo’r garreg, ei gosod yn ei lle, llunio a gosod placiau cymwys ac anfon cais cynllunio at Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro.

Mae’n fwriad hefyd i drefnu gweithgareddau eraill o amgylch achlysur y dadorchuddio.

Y gobaith yw codi £3,000 ac eisoes mae £520 wedi’i gyfrannu. Mae’r gronfa yn cael ei gweinyddu gan Gymdeithas Cwm Cerwyn sy’n gorff er budd cymunedol yn ardal Mynachlog-ddu.

"Erfyniwn arnoch i gyfrannu at sicrhau cofeb deilwng i un a fu’n adnabyddus trwy Gymru gyfan yn ei ddydd ac yn ladmerydd diflewyn ar dafod," meddai llefarydd ar ran y pwyllgor.

Dylid gwneud siec yn daladwy i Gymdeithas Cwm Cerwyn ond gellir trosglwyddo cyfraniad yn ddigidol. Y manylion cyfrif yw: cod 30-91-65 cyfrif 01036767 Banc Lloyds

Y cyfeiriad i o ran derbyn cyfraniadau trwy’r post yw: Hefin Wyn, Carreg y Fendith, Maenclochog, Sir Benfro. SA 66 7LD. Os am wybod mwy cysylltwch ar 01437 532236 neu hefinwyn367@btinternet.com

Magwyd Thomas Evan Nicholas yn nhyddyn Y Llety ym Mhentregalar. Daeth i amlygrwydd trwy Gymru gyfan fel Niclas y Glais am iddo fod yn weinidog ym mhentre’r Glais yng Nghwm Tawe am ddeng mlynedd.

Derbyniodd addysg i’w baratoi at y weinidogaeth yn Academi’r Gwynfryn, Rhydaman, a bu’n weinidog yn Llandeilo, Wisconsin a Llanddewi cyn troi at ddeintydda yn Aberystwyth wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ond ni roddodd y gorau i bregethu.

Roedd yn fardd cynhyrchiol yn pledio achos Sosialaeth a lles y werin yn ei gyfrolau cynnar. Cydweithiai â Keir Hardie a bu’n weithgar gyda’r No-Conscription Fellowship.

Cafodd ei garcharu am ei ddaliadau radical adeg yr Ail Ryfel Byd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o sonedau a gyfansoddwyd ganddo yng ngharchar. Byddai bob amser yn feirniadol o’r frenhiniaeth a’r ‘drefn ysbail’ fel y cyfeiriai at gyfalafiaeth.

Fe’i hystyriwyd yn llefarydd Cymraeg Comiwnyddiaeth. Mynnai ei fod yn gomiwnydd ar sail profiadau plentyndod o ormes landlordiaeth ymhell cyn sefydlu’r blaid wleidyddol.

Dywedai iddo gael profiad o Grist wrth glustfeinio ar wreigen mewn tyddyn unnos gerllaw liw nos yn sgwrsio â’i Gwaredwr. Cafodd ei lwch ei wasgaru yn y fan lle y codir y garreg goffa.