Bydd dau gôr lleol yn uno i greu un côr cymysg er mwyn cystadlu mewn Gŵyl Gorawl yn Llandudno ym mis Tachwedd eleni.

Côr Porthnest yw enw’r côr newydd – cyfuniad o Gôr Meibion Blaenporth a Chôr Merched Bro Nest.

Maent wedi perfformio fel un côr eisoes – yn 2017, pan fu’r ddau gôr yn dathlu penblwydd arbennig – 70 mlynedd i’r côr meibion a 25 mlynedd i’r merched.

Cewch gyfle i glywed y côr nos Sul, Hydref 21, yng nghapel Blaenannerch am 7.30 yr hwyr. £5 fydd pris y tocyn, wrth y drws neu wrth aelodau’r côr.

Bydd cyfle hefyd i glywed enillydd y Rhuban Glas, Kees Huysman o Dregroes a Holly Forster, sy’n aelod o Only Kids Aloud.

Mae croeso cynnes i bawb ac mae digon o le i barcio ar dir y capel.