Roedd y bobl a ddaeth ynghyd i faes parcio Capel Cilfowyr ar nos Wener, Medi 14, ar gyfer Taith Gerdded flynyddol yr Egin Gwyrdd wedi bod yn aros yn hir am yr achlysur.

Trefnwyd y daith flwyddyn yn ôl ond ni fu’n bosibl cerdded y noson honno oherwydd y glaw mawr a dywalltodd wrth i bawb gyrraedd y safle.

Eleni fodd bynnag, roedd yn noson fwynedd iawn a’r haul yn gwenu, ac er na ddaeth niferoedd mawr ynghyd, bu’n daith i’w chofio ac yn un a fu’n wir werth aros amdani.

Croesawyd pawb i’r safle gan arweinydd y daith, Dyfed Elis Gruffydd a chyflwynodd i’w wrandawyr hanes yr ardal gan gynnwys hanes diddorol yr eglwys fach ar lan yr afon, hen blasdy Ffynone a hanes adeiladu eglwys newydd Manordeifi yn uwch i fyny’r cwm yng Ngharreg Wen.

Cyn symud o’r fan, cyflwynwyd llawer o hanesion diddorol, difyr a doniol o orffennol lliwgar capel Cilfowyr gan ei wraig Siân. Yr hyn sy’n gwneud y daith hon mor ddeniadol bob blwyddyn yw’r môr o wybodaeth y bydd y ddau yma’n casglu ynghyd i’w rannu gyda’r cerddwyr.

Wedi talu ymweliad bach gyda bedyddfa allanol Cilfowyr, troedwyd tuag at eglwys Manordeifi lle roedd Delyth yn aros amdanom.

Nid gorddweud yw datgan i bawb gael eu gwefreiddio gan yr eglwys! Roedd tu fewn yr aeilad ei hunan, gan gynnwys yr allor brydferth, yn bictiwr ac yn amlwg iawn yn cael gofal arbennig gan yr aelodau.

Ond roedd y pulpud a’r fedyddfan mamor ac alabaster yn syndod ac yn rhyfeddod y byd. Dotiwyd hefyd ar yr organ bîb unigryw a braf oedd cael canu pennill o emyn i gyfeiliant Wendy ar yr organ. Nid oedd chwant ar un i ymadael â’r adeilad ond ymadael bu’n rhaid yn y diwedd a throedio nôl am Gilfowyr.

Wrth gyrraedd nôl i faes parcio’r capel roedd aroglau hyfryd barbeciw Ken a Lon Davies, cigyddion Crymych yn llenwi’r lle a chyn hir roedd y boliau’n llawn hefyd! Unwaith eto, nid oedd hast ar neb i fynd a chafwyd orig fach hyfryd o ymlacio a sgwrsio o amgylch y BBQ hyd nes i’r haul fynd lawr.

Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i bawb a fu mor barod i roi o’u hamser a’u gwasanaeth ac i bawb a ddaeth ynghyd i sicrhau noson lwyddiannus arall yn enw Ysgolion Sul Cymanfa Bedyddwyr Penfro.