Daeth cynulleidfa deilwng ynghyd eto eleni ac fe gafwyd Diwrnod Agored llwyddianus a chartrefol yng nghartref y Bedyddwyr Glyn Nest.
Agorwyd y dydd gan Mrs Rosemary Morgan, Taliaris, Llandeilo. Diolchwyd i bawb a gyfrannodd yn hael tuag at y coffre, y gwahannol stondinau, ac hefyd i'r gwirfoloddwyr a fu'n gweini a threfnu'r dydd.
Yn y llun gwelir maer a maeres CNE, y wraig wadd, y gwahoddigion, rheolwraig, swyddogion pwyllgor tŷ a brenhines yr Urdd a'u gosgor.
Yn annisgwyl yn ystod y dydd ymwelodd criw o'r rhaglen deledu 'Prynhawn Da' i gyflwyno Plat Halen y Ddaear i Charlie Jones, un o ddeilied cartref Glyn Nest, am ei wasanaeth clodwiw i'r cartref, am ei ofal cyson o'r ardd flodau ac hefyd am ei gymwynasau a'i garedigrwydd i'w gyd-ddeiliaid.
Yn y llun gwelir Alwyn Humphreys yn cyflwyno'r Plat i Charlie.
Gwerthfawrogwyd yn fawr bresenoldeb dau Aelod Seneddol sef Ben Lake AS Ceredigion a Jonathan Edwards AS Caerfyrddin a Dinefwr.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here