Eleni eto cafwyd ddiwrnod llwyddiannus iawn yn Sioe Hen Beiriannau Blynyddol Bwlch-y-groes pan ddaeth nifer fawr o hen dractorau, a rhai mwy modern ar daith o gwmpas yr ardal a drefnwyd gan Mr Jack Vaughan o Grymych.

Roedd elw'r daith tractorau eleni yn cael ei rannu rhwng dwy elusen sef Sarcoma a'r RWAS gan mai Sir Benfro sydd yn noddi'r Sioe Frenhinol flwyddyn nesaf. Roedd hefyd hen geir a hen beiriannau yn eu plith, a'r sylwebydd oedd Mr Emyr Phillips.

Agorwyd y sioe gan y llywydd Mr Elwyn Jones a'i wraig Susan, sydd yn un o blant yr ardal sydd yn byw ym Mlaenpistyll.

Braf iawn oedd cael y neuadd yn llawn o wahanol nwyddau gan gynnwys Aeres James â'i doliau ŷd. Er i'r glaw ddisgyn tu allan am ychydig, roedd y neuadd yn llawn dop.

Yn y nos cynhaliwyd rhost mochyn gydag Ian Roberts o Fancyfelin yn diddanu.