Cynhelir cyngerdd arbennig yng Nghastell Aberteifi ddiwedd y mis i gefnogi ysgol Gymraeg newydd – ysgol sydd dros 7,000 o filltiroedd i ffwrdd ym Mhatagonia.

Penderfynodd yr artistiaid, Rhys Meirion, Aled Wyn Davies, Alejandro Jones ac aelodau o Glwb Telyn Castell Aberteifi, roi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim er mwyn i'r elw gael ei gyflwyno i hyrwyddo dyfodol Ysgol y Cwm, a agorwyd ddwy flynedd yn ôl yn Nhrevelin, tre fechan wrth droed mynyddoedd uchel yr Andes.

Cynhelir y gyngerdd ar nos Wener, Awst 31, o dan nawdd Pwyllgor Gefeillio Aberteifi/Trevelin, Patagonia.

Mae Rhys Meirion yn enw cyfarwydd iawn yn Y Wladfa fel mewn gwledydd eraill drwy'r byd. Bu'n canu ar ddwy gylchdaith yno eisoes.

Ac yntau'n gyn-athro cyn dechrau ar ei yrfa fel unawdydd proffesiynol, nid rhyfedd fod ganddo ddiddordeb dwfn mewn hyrwyddo addysg Gymraeg ym Mhatagonia.

Cyflwynwyd elw un cylchdaith y bu arni i helaethu ysgol Gymraeg arall yn Y Wladfa, sef Ysgol yr Hendre yn Nhrelew.

Bu ail denor y gyngerdd, Aled Wyn Davies, hefyd ar ymweliadau â Phatagonia. Ef oedd yr unawdydd gwadd gyda Chôr Godre'r Aran ar gylchdaith lwyddiannus o dair wythnos yn Y Wladfa.

Yr oedd Aled wedi hen ennill enwogrwydd iddo'i hun ar lwyfannau'r byd pan gafodd wahoddiad gan Rhys Meirion yn 2014 i ymuno ag ef ac Aled Hall fel aelod o Tri Thenor Cymru.

Er y galw cyson amdano fel unawdydd rhyngwladol, y mae Aled yn dal i ffermio yn ei gartref yn Llanbrynmair.

Ffermio yw gwaith beunyddiol unawdydd arall y gyngerdd, Alejandro Jones,

ond yn Nhrevelin, Patagonia, y mae ei fferm ef. Y mae'n ddisgynnydd i'r anturiaethwr enwog John Daniel Evans, a oedd yn un o'r 153 o Gymry a hwyliodd ar fwrdd y Mimosa o Lerpwl yn 1865 i sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Sbaeneg yw iaith gyntaf Alejandro, ond dysgodd ganu alawon Cymraeg gyda'i datcu pan oedd yn blentyn ifanc. Ers iddo ddod i Gymru am y tro cyntaf yn 2005 mae wedi dysgu a gloywi'i Gymraeg.

Aelodau o Glwb Telyn Castell Aberteifi fydd offerynwyr y gyngerdd. Fe'i ffurfiwyd bedair blynedd yn ôl gan y delynores Meinir Heulyn, a gafodd y syniad o'i sefydlu ar ôl gweld y castell ar ei newydd wedd.

Y mae'r clwb telyn eisoes wedi cael llwyddiant yn yr Ŵyl Gerdd Dant a gynhaliwyd yn Llandysul y llynedd.

Pris tocynnau i'r gyngerdd yw £10; plant £5. Gellir eu harchebu o Theatr Mwldan, Aberteifi – ffôn: 01239 621200, neu ar-lein: mwldan.co.uk