Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian wedi ychwanegu at eu llwyddiant yng nghystadleuaeth panto CFfI Ceredigion yn Theatr Felinfach. Bu'n rhaid aildrefnu’r gystadleuaeth genedlaethol oherwydd y tywydd oer a'r eira yn mis Mawrth ac yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, nnillodd Clwb Pontsian y gystadleuaeth dros Gymru.

Cafwyd 94 marc allan o 100, ac fe dderbyniodd y prif actorion Lisa Jones, Carwyn Blayney, Endaf Griffiths a Cennydd Jones, glod am eu dawn actio. Nhw hefyd enillodd y tlws am y perfformiad technegol gorau. Fe ddaeth Pontsian i'r brig yn y gystadleuaeth hon yn 2009 hefyd.