Cafwyd noson hwylus yn Eisteddfod Gadeiriol Bryngwenith ar nos Wener, Ebrill 6.

CERDDORIAETH

Unawd Blwyddyn 2 ac iau: 1, Efan Rhun o Dalgarreg;; 2, Gruffydd Rhys Davies o Landyfriog a Celyn Fflur Davies o Landyfriog;; 3, Tirion Thomas o Bencarreg

Unawd Blwyddyn 3-4: 1, Megan Wyn Morris o Dalyllychau; 2, Fflur McConnol o Aberaeron; 3, Sara Mai Davies o Benrhiwpal

Unawd Blwyddyn 5-6: 1, Swyn Efa Thomas o Bencarreg; 2, Elen Morgan o Drefach, Llanybydder

Unawd Cyfyngedig i blant ysgolion cynradd sydd â chysylltiad â Gofalaeth y Parch Carys Ann, Blwyddyn 2 ac iau: 1, Efan Davies o Dalgarreg. Blwyddyn 3 -6: 1, Lisa Hamilton o Gastell Newydd Emlyn; 2, Hawys Mai Davies o Brynhoffnant a Sara Mai Davies o Benrhiwpal

Parti unsain dan 16 oed: 1, Parti Ysgol Sul Glynarthen

Can Werin dan 16 oed: 1, Megan Wyn Morris o Dalyllychau; 2, Swyn Efa Thomas o Bencarreg

Unawd Cerdd Dant dan 16 oed: 1, Swyn Efa Thomas o Bencarreg; 2, Fflur McConnol o Aberaeron

Canu emyn dan 18 oed: 1, Swyn Efa Thomas o Bencarreg

LLEFARU

Llefaru Blwyddyn 2 ac iau: 1, Celyn Fflur Davies o Landyfriog; 2, Gruffydd Rhys Davies o Landyfriog a Tirion Thomas o Bencarreg; 3, Efan Rhun o Dalgarreg

Llefaru Blwyddyn 3-4: 1, Hawys Mai Davies o Frynhoffnant; 2, Sara Mai Davies o Benrhiwpal; 3, Megan Wyn Morris o Dalyllychau

Llefaru Blwyddyn 5-6: 1, Heulun Bowen Davies o Brynhoffnant; 2, Elen Morgan, Drefach Llanybydder; 3, Swyn Efa Thomas o Bencarreg

Llefaru cyfyngedig i blant sydd â chysylltiad â gofalaeth y Parch Carys Ann, Blwyddyn 2 ac iau: 1af Efa Rhun o Dalgarreg; 2, Hana Davies o Glynarthen. Blwyddyn 3-6: 1, Sara Mai Davies o Benrhiwpal a Hawys Mai Davies Brynhoffnant; 2, Heulun Bowen Davies o Brynhoffnant; 3, Lisa Mai Hamilton o Gastell Newydd Emlyn

Darllen darn o’r Ysgrythur - Dros 16: 1, Maria Evans o Alltwalis

Her Adroddiad agored - Dros 21: 1af Maria Evans Alltwalis

LLENYDDIAETH

Cystadleuaeth am y Gadair: Y bardd buddugol oedd Y Parch Cen Llwyd, Talgarreg.

Englyn: Nia Llewellyn Felindre

Cân Ddigri: Megan Richards Aberaeron

Limerig: Delyth Lewis Llangwyryfon

Brawddeg: Megan Richards o Aberaeron a Carys Briddon, Tre’r Ddol.

Cadeirydd y noson oedd y Bnr Bert Jones, Muriaugwyn Penparc, Aberteifi (gynt o Penbuarth).

Arweinyddion y noson oedd y Parch Carys Ann a'r Fns Gwenda Evans.

Yng ngofal y cadeirio oedd y Bnr Dai Rees Davies a'r Bnr Gwyndaf James oedd yn canu cận y cadeiro.

Beirniaid y noson oedd: Cerdd, y Bnr Peter Leggett, Penrhyn-coch. Llen a Llefaru, y Fns Gaenor Mai Jones, Caerdydd.

Y gyfeilyddes oedd y Fns Lyn James, Castell Newydd Emlyn; trysorydd y Fns Elsie Evans a'r ysgrifennydd y Fns Anne Lewis.

Diolchwyd y pwyllgor am bob cyfraniad a chymorth tuag at lwyddiant yr Eisteddfod ac i Mared, Teleri, Malen ac Onw, wyresau yr ysgrifennydd, am y rhodd o gadair fechan a wnaethpwyd gan Mr John Adams. Hefyd i'r gwragedd am eu cymorth gyda'r lluniaeth yn y Festri ac i Gillian Jones, John a Huw Adams am eu cymorth wrth y drws ac i Barry Adams am dynnu lluniau.