Mae hyn yn amser cyffrous iawn i rai o fyfyrwyr Buddug Verona James o bentre’ Rhoshill ger Aberteifi. Bydd Lloyd Macey, a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yr X Factor, yn ymuno gyda Rak-Su, Grace Davies, Kevin Davey White, The Cutkelvins a Matt Linen i fynd ar daith o amgylch Prydain, ac yn cyrraedd Caerdydd ar Chwefror 19.

Mae pob cyngerdd yn gystadleuaeth, a’r gynulleidfa yn penderfynu ar enillydd bob nos. Dywedodd Lloyd ei fod yn edrych ymlaen at weld ei gyd- gystadleuwyr eto, gan eu bod wedi dod yn ffrindie da wrth baratoi am y sioeau byw, ond bydd rhaid gofalu cael digon o gwsg oherwydd bod y daith yn un hectig; 14 cyngerdd o fewn 17 diwrnod!

Mae’r fezzo-soprano o Lithiwania, Justina Gringyte, yn adnabyddus i gynulleidfaoedd Cymru bellach. Dechreuodd astudio gyda Buddug yn 2006 o dan gynllun Erasmus, a thra’n fyfyrwraig mi ganodd rhan Carmen mewn cynhyrchiad yn Rhosygilwen gyda myfyrwyr eraill Buddug.

Mae nawr wedi perfformio’r rôl dros hanner cant o weithiau, mewn pum cynhyrchiad gwahanol ar draws y byd. Bu’n fuddugol yn Llais Llwyfan Llambed, a bydd rhai hefyd yn ei chofio yn canu 'Hywel a Blodwen' gydag Aled Hall mewn cyngerdd yn Aberteifi a ddarlledwyd ar S4C.

Mae Justina yn canu rhannau Curra a Preziosilla yn 'La Forza del Destino' gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Dyma’r ail waith iddi ganu gyda’r cwmni.

Ar Fawrth 9 am 1yp yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru bydd Iwan Teifion Davies o Landudoch yn ymuno â Justina mewn perfformiad o waith Berlioz.

Yn gerddor, canwr, a bardd o fry, fe astudiodd Saesneg yng Nghaergrawnt cyn hyfforddi fel répétiteur yn y Guildhall School of Music and Drama a’r National Opera Studio yn Llundain.

Yn ddiweddar bu’n arwain opera newydd Gareth Glyn a Mererid Hopwood, Wythnos yng Nghymru Fydd, i Opera Cymru ar daith ar draws Cymru.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn nhy opera Salzburg fel arweinydd a chyfeilydd.