Cynhaliwyd yr Eisteddfod Gadeiriol Crymych a'r Cylch ar ddydd Sadwrn, Chwefror 3.

Y beirniaid eleni oedd – Cerdd, Delyth Medi; Llefaru, Elen Morgan; Llên, Ceri Wyn Jones; Llên Ysgolion, Sian Griffiths a'r cyfeilydd oedd Meirion Wynn Jones.

Y llywydd oedd Ann Batey, Llundain (Ann Lewis, gynt o Grymych).

Cafwyd eisteddfod llawn hwyl a chartrefol gyda chystadleuwyr o bell ac agos yn cymryd rhan.