CYNHALIWYD cystadleuaeth Ddrama CFfI Ceredigion yn Theatr Felinfach gyda 15 o glybiau’r sir yn cystadlu.

Cafwyd cefnogaeth dda gan y clybiau a hefyd ffrindiau’r Mudiad, gan sicrhau bod y theatr yn gyfforddus lawn bob nos.

Y clybiau a gymerodd ran oedd Bro’r Dderi, Caerwedros, Felinfach, Llanddewi Brefi, Llangeitho, Llangwyryfon, Llanwenog, Lledrod, Mydroilyn, Penparc, Pontsian, Talybont, Tregaron, Trisant a Throedyraur gyda 139 o aelodau’r sir yn cael y profiad o berfformio ar lwyfan. Cafodd y beirniad, Mrs Rhian Morgan, cryn drafferth i’w gosod gan fod y safon mor uchel.

Ar ddiwedd y noson, dyfarnwyd Llangeitho yn gyntaf; Pontsian yn ail; Talybont yn drydydd; yn bedwerydd oedd Felinfach a Trisant yn bumed gyda Penparc yn chweched.

Yn ogystal â Llangeitho yn ennill tarian coffa D J Morgan am ennill y gystadleuaeth, cyflwynwyd nifer o wobrau eraill ar ddiwedd y noson olaf.

Yr actor gorau 16 oed neu iau, yn ennill tarian Mr a Mrs Alwyn Evans, oedd Rhys Davies, Llanwenog, 2il oedd Sion Evans, Caerwedros a’r 3ydd oedd Ianto Evans, Mydroilyn.

Aeth yr actores orau 16 oed neu iau, ac yn ennill Cwpan Teulu Pantyrodyn, i Cadi Jones, Lledrod, 2il oedd Nest Jenkins, Lledrod a’r 3ydd oedd Alaw Fflur Jones, Felinfach.

Yr actor gorau, ac yn ennill Cwpan Coffa Janet Davies, Llanilar oedd Dewi Jenkins, Talybont, 2il oedd Trystan Jones, Caerwedros a’r 3ydd oedd Ifan Davies, Trisant.

Aeth yr actores orau, ac yn ennill Cwpan Coffa Mary Jane Dowling a Tudor Lewis, Gorslwyd i Rhian Evans, Felinfach gyda Lia Mair, Mydroilyn yn 2il a Lowri Pugh Davies, Bro’r Dderi yn 3ydd. Enillwyd Cwpan Coffa D Arthur Davies am y cynhyrchydd gorau gan glwb Pontsian ac aeth cwpan y sgript orau i Penparc.

Clwb Llangwyryfon enillodd Darian Marie Vaughan Jones am y set gorau a chlwb Lledrod am y perfformiad technegol gorau.

Derbyniodd pob un o’r enillwyr yma fasg o bren i’w gadw o waith Caradog Williams roddwyn gan Undeb Amaethwyr Cymru. Cynhaliwyd cyngerdd o’r goreuon ar y nos Lun ganlynol yn y Theatr.

Noddwyr oedd NFU Ceredigion Trust Fund, i Siop Wendy, Blodau’r Bedol, Cigyddion Rob Rattray, Siop Iago a Sarnau Army Supplies. Y llywyddion ar gyfer yr wythnos oedd Elaine Lewis, Ponterwyd; Meriel Williams, Derwen Gam; Sandra Jenkins, Llangwyryfon; Delyth Jones, Felinfach; Heledd Gwyndaf, Talgarreg a Yvonne Evans, Aberaeron - pob un ohonynt a chysylltiad agos iawn â’r mudiad a’r ardal.

Yn ogystal â’r dramau cynhaliwyd cystadleuaeth ‘Amser i Serennu’ gyda Dai Baker, cyn-aelod o CFfI Penybont, Sir Gâr, yn beirniadu. Dyfarnodd y wobr gyntaf i Llanwenog â’r 2il i Bro’r Dderi.

Yn ôl yr arfer ar noson y cyngerdd o’r tair drama buddugol, cyhoeddwyd enillwyr Aelod Hyn a Iau y sir. Angela Evans, Tregaron oedd enillydd Aelod Hyn ac aeth yr Aelod Iau i Carwyn Hawkins, Felinfach gyda Caryl Morris, Llanddeiniol yn 2il ac Angharad Davies, Trisant ac Alaw Mair Jones, Felinfach yn gydradd 3ydd.

Fe fydd Clwb Llangeitho yn mynd ymlaen yn awr i gynrychioli Ceredigion yng nghystadleuaeth Ddrama CFfI Cymru, ynghyd â Carwyn ac Angela a thîm Llanwenog yn yr Amser i Serennu. Cynhelir yr Wyl o Adloniant yn Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog ar benwythnos cyntaf mis Mawrth.