CAFODD y wobr am Offerynnwr Gorau, a wobrwywyd i Gwilym Bowen Rhys, yng ngwobrau cerddoriaeth Y Selar yn ddiweddar, ei noddi gan Goleg Ceredigion eleni.

Mae'r digwyddiad, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, yn dathlu ac yn cydnabod goreuon cerddoriaeth Gymraeg.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth a mynychodd amrywiaeth ddisglair o sêr a ffans y sîn gerddoriaeth Gymraeg, a'r cyfryngau.

"Mae Coleg Ceredigion yn falch o gefnogi’r digwyddiad gwych hwn sy'n dathlu'r gorau mewn cerddoriaeth Gymraeg," meddai Rhys Huws o Goleg Ceredigion a gyflwynodd y wobr.

"Dyma'r drydedd flwyddyn i ni noddi Gwobrau'r Selar, ac mae'n wych ar gyfer Ceredigion i allu cynnal un o nosweithiau pwysicaf yng nghalendr y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Rydym yn falch o allu cefnogi cenhedlaeth newydd o artistiaid a helpu i feithrin ein sîn gerddoriaeth sy'n ffynnu."

Yn ogystal â nawdd Coleg Ceredigion, dyluniodd a chreodd Adran Gelf a Dylunio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dlysau ar gyfer y gwobrau eleni. Mae Coleg Ceredigion yn is-gwmni Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae'r ddau bartner yn falch iawn i gefnogi'r gwobrau.

Dywedodd Gwenllian Beynon, Cydlynydd Celf a Dylunio Cymreig yn PCYDDS, "Roeddwn yn falch iawn o allu gweithio gyda Gwobrau'r Selar eto eleni. Roedd yn gyfle gwych y llynedd i'r myfyrwyr ac roeddwn wrth fy modd o weld y gwobrau wedi eu harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd hwn unwaith eto, yn gyfle gwych i'n myfyrwyr gweithio ar brosiectau go iawn."