ARDAL y Traeth Gwyn, neu Poppitt, a Chipyn, fu ein cyrchfan fis Chwefror gyda Terwyn Tomos yn arwain, a chawsom hanesion difyr ar hyd y daith gylch ddeniadol hon.

Clywsom am y bad achub, yr hen gored, Ynys Aberteifi, ffurfiant y twyni tywod, yr Hostel Ieuenctid, Capel Gerazim a'r mans (lle bu'r Prifardd Eirwyn George yn byw), a Chapel Bryn Salem, ymysg pethau eraill. Wedi cerdded am ddwy awr mewn tywydd da, aeth rhai ymlaen i fwynhau croeso Caffi Poppit a thafarn y Webley.

Ym mis Mawrth, 12fed, byddwn yn hen stad Clynfyw gyda Howard Williams i'n harwain. Y man cychwyn fydd Tafarn y Nag’s Head, Aber-cuch (SN251 400). Dewch mewn da bryd i ddechrau ar y daith am 10.30.

Fe gawn ddefnyddio maes parcio’r dafarn yn ogystal â’r trac llydan ar y dde y tu hwnt i’r dafarn. Awn eto ar daith gylch tua dwy filltir, llai na dwy awr, a bydd i gyd ar draciau da a llwybrau derbyniol ar hen stad Clynfyw; bydd peth mwd mewn mannau (esgyniad: tua 300 o droedfeddi).

Wrth gerdded, cawn fwynhau llwybr y Cerfluniau, eirlysiau wrth y miloedd (a ddylai fod ar eu gorau), golygfa dda i lawr ar Afon Cych a’r Cwm, a chlywed am gysylltiadau â’r Mabinogi, hanes y stad a’r hen ardd furiedig. Bydd cyfle i gael lluniaeth yn Nhafarn y Nag’s Head wedi'r daith.

Fis Ebrill 9fed, bydd Reg Davies yn arwain taith yn ardal Dinas ac Aber-bach. Cychwynnwn o Faes Parcio Capel Tabor, Dinas (SN005 384 Cod post: SA42 0XG). O gyfeiriad Aberteifi, trowch i’r dde gyferbyn â lloches byses ar ôl mynd heibio’r troad i Bwllgwaelod).

Dewch mewn da bryd i ddechrau ar y daith am 10.30. Awn ar daith gylch ddwy awr, tua 2.5 milltir, ar lwybrau i fferm Tre-wrach, lawr lôn dawel a llwybr da i draeth Aber-bach ac yn ôl ar y lôn i ddychwelyd i’r Capel.

Bydd un llecyn a all fod yn fwdlyd, dwy sticil, ac esgyniad o ryw 400 troedfedd, y rhan fwyaf ohono ar y ffordd yn ôl i’r Capel, sy’n eithaf serth ar y dechrau. Gallwn ddisgwyl daith brydferth, hanesyddol gydag ymweliad â pherl o draethell anghysbell. Ac wedyn bydd cyfle i gael lluniaeth yn nhafarndai Trefdraeth a Dinas a hefyd yng nghaffi Flas Fronlas, Trefdraeth.

Ym mis Mai, cerddwn yn ardal Cwm Soden, ger Cwm Tydu, gan adael man parcio Eglwys Llandysiliogogo (SN363 572) (Cod post SA44 6LH), am 10.30yb.

Bydd croeso cynnes i bawb ar bob taith. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson, 01239 654561 philippa.gibson@gmail.com

Dyddiadau'r teithiau nesaf:

Mawrth 12: Ardal Clynfyw ac Aber-cuch. Gadael man ar bwys tafarn y Nag’s Head (SN251 401) (Cod post SA37 0HJ), am 10.30yb. Arweinydd: Howard Williams

Ebrill 9: Ardal Dinas ac Aber-bach. Gadael maes parcio Capel Tabor, Dinas (SN005 384) (Cod post SA42 0XG), am 10.30yb. Arweinydd: Reg Davies

Mai 14: Cwm Soden, ger Cwm Tydu. Gadael man parcio Eglwys Llandysiliogogo (SN363 572) (Cod post SA44 6LH), am 10.30yb. Arweinydd: Howard Williams

Mehefin 11: Ardal Cilgerran a Llechryd

Gadael maes parcio Neuadd Cilgerran (SN198 428) (Cod post SA43 2TE), am 10.30yb. Efallai bydd y man cychwyn yn newid yn nes at y dyddiad. Arweinydd: Emyr Phillips