GWELWYD 600 o blant o ysgolion Ceredigion, Sir Gâr a Phenfro yn mwynhau Sioe @LlyfrDaFabBooks yng Nghastell Aberteifi mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Bu pedwar awdur – Sioned Lleinau, Caryl Lewis, Huw Aaron a Casia Wiliam – yn trafod cynnwys eu gwaith a sut mae mynd ati i greu llyfr a’i ddylunio.

Yn ôl yr awdures Casia Wiliam, roedd yn ddiwrnod arbennig: “Roedd hi'n bleser pur cael cyfarfod llond Castell Aberteifi o blant dros y deuddydd a chlywed beth maen nhw'n licio'i ddarllen a beth sy'n gwneud iddyn nhw chwerthin!

“Mae'n grêt gweld y Cyngor Llyfrau yn rhoi cynnig ar ddigwyddiadau newydd fel hwn, sy'n rhoi cyfle i ddosbarthiadau cyfan gyfarfod awduron a, gobeithio, cael eu hysbrydoli i sgwennu hefyd.”

Meddai Anwen Francis ar ran y Cyngor Llyfrau: “Cawsom wledd yn wir! Dychmygwch – chwe chant o blant a phedwar awdur yn mwynhau trafod cynnwys llyfrau a chartwnau. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ein taith nesaf pan fydd y Cyngor Llyfrau yn cynnal digwyddiad yn y de-ddwyrain.”

Yn ogystal â diddanu llu o blant y dalgylch, un o amcanion y digwyddiad oedd gwerthu llyfrau a rhoi’r cyfle i lyfrwerthwr lleol ddangos ei stoc. Roedd Geraint James o Siop Awen Teifi yn teimlo bod yr achlysur wedi bod o fudd mawr.

“Gwych oedd cael cydweithio gyda’r awduron, y plant, Castell Aberteifi ac wrth gwrs Cyngor Llyfrau Cymru. Roedd y digwyddiad o fudd i bawb a gobeithio y gallwn drefnu rhagor o ddigwyddiadau arbennig iawn fel hyn ar y cyd yn y dyfodol agos yma yn Aberteifi.”

Bwriad Cyngor Llyfrau Cymru yw trefnu digwyddiad arall yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn ymweld â de Cymru.