DISGWYLIR y bydd cynnydd sylweddol o blant bach yn dysgu Cymraeg pan agorir ysgol newydd ym Mhatagonia yn y gwanwyn.

Dyna oedd y newyddion calonogol a gafwyd gan Eluned Jones, Swyddog Datblygu’r Gymraeg, o dan Gynllun Yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia, mewn sgwrs ganddi yn Aberteifi yr wythnos ddiwetha.

"Pan gysylltais â phwyllgor rheoli Ysgol y Cwm y bore ’ma, dwedwyd bod hanner cant o blant wedi’u cofrestru eisoes yn ein hysgol newydd yn Nhrevelin," meddai Eluned, a ddychwelodd i weithio yn y Wladfa ychydig ddyddiau’n ôl.

Brodor o Gapel Newydd, ger Boncath, yw Eluned, a fu’n brifathrawes am gyfnodau yn Ysgol y Babanod Aberteifi ac Ysgol Gymuned Cilgerran. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol iddi ymgymryd â gwaith yr iaith ym Mhatagonia.

Dywedodd bod llywodraeth yr Ariannin wedi rhoi 1.1 miliwn pesos ar gyfer adeiladu’r ysgol newydd yn Nhrevelin, pentre wrth droed mynyddoedd yr Andes, a bod y pensaer wedi gwneud ei waith am ddim i hyrwyddo’r fenter.

Bydd yr ysgol yn un statudol pan agorir hi, a bydd y plant yn cael eu haddysgu mewn dwy iaith - Cymraeg a Sbaeneg.

"Er bod y grant yn swnio’n lot o arian i chi yma, falle, y mae galw mawr am gyllid i brynu cyfarpar ar gyfer yr ysgol," meddai Eluned. "Mae gofyn i’r athrawon fod yn ddyfeisgar yn amal wrth ailgylchu offer a deunydd dosbarth.

"Hoffwn ddweud bod swyddogion a rhieni’r ysgol yn wirioneddol ddiolchgar am y rhoddion ariannol a dderbyniwyd gan garedigion yng Nghymru, yn enwedig y rhai a gyfrannodd i’r gronfa drwy waith Pwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin."

Yn ystod y noson cyflwynwyd siec o £100 i’r gronfa gan Glwb Cinio Trefdraeth a’r Cylch drwy law'r Parch. Eirian Wyn Lewis, cadeirydd y pwyllgor gefeillio.

Dangosodd Eluned Jones sleidiau o blant bach ysgol Trevelin wrth eu gwaith. "Mae nhw wedi dysgu geiriau Hen Wlad Fy Nhadau ac yn canu’r anthem, a chodi baner y Ddraig Goch bob dydd. Mae’n brofiad gwefreiddiol i fi wrth eu clywed yn ei chanu o’r galon," meddai.

Gobaith Eluned yw y bydd yr hanner cant a mwy o ddisgyblion newydd Ysgol y Cwm yn gwbl rhugl yn y Gymraeg ymhen pedair blynedd, fel a ddigwyddodd yn yr ysgol ar waelod dyffryn y Wladfa yn Nhrelew.