Bu’r Sul diwethaf, Ionawr 24, yn lwyddiant mawr pryd y cynhaliwyd cystadleuaethau Siarad Cyhoeddus Cymraeg CFfI Ceredigion ar Gampws Coleg Felinfach.

Cafwyd diwrnod hwylus iawn gydag aelodau o 13 o glybiau’r sir yn dangos eu doniau wrth gystadlu, gyda’r beirniaid i gyd yn canmol y safon.

Y clwb a enillodd y nifer mwyaf o bwyntiau dros y pedair adran, ac yn ennill tarian Brynhogfaen gyda 75 o farciau oedd clwb Llanwenog, gyda Pontsian yn ail gyda 72 marc ac yn ennill Cwpan Coffa Eric Davies, Prengwyn.

Yng nghystadleuaeth y darllen o dan 14 oed ac iau cafwyd 15 o dimoedd yn cystadlu ac yn beirniadu oedd Mr a Mrs Alwyn Evans a dyma’r canlyniadau:

Cadeirydd – 1af Gwion Ifan, Pontsian A; 2il Hanna Davies, Llanwenog A; 3ydd Enfys Morris, Llangwyryfon.

Darllenydd – 1af Beca Jenkins, Pontsian B; 2il Caleb Rees, Pontsian A; 3ydd Gwion Ifan, Pontsian A.

Tîm – 1af Pontsian A; 2il Llanwenog A; 3ydd Pontsian B.

Bu 16 o dimau o flaen y beirniad Mrs Sara Gibson yn y gystadleuaeth 16 oed neu iau ac ar ddiwedd y gystadleuaeth yma, cafwyd y canlyniadau canlynol:

Cadeirydd – 1af Ffion Evans, Llanwenog B; 2il Elliw Davies, Caerwedros B; cydradd 3ydd Alaw Mair Jones, Felinfach a Cadi Jones, Lledrod B.

Siaradwr – 1af Nest Jenkins, Lledrod B; 2il Iwan Evans, Llanwenog B; 3ydd Gwion Hughes, Mydroilyn A.

Diolchydd – 1af Catrin Jones, Lledrod B; 2il Alaw Fflur Jones, Felinfach; 3ydd Martha Dafydd, Llangeitho.

Tîm –1af Lledrod; 2il Llanwenog B; 3ydd Felinfach.

Bu 10 tîm yn cystadlu yn y gystadleuaeth Seiat Holi 21 oed neu iau a Mrs Meinir Howells oedd yn cloriannu. Dyma’r canlyniadau:

Cadeirydd – 1af Nest Jenkins, Lledrod; 2il Rhys Davies, Llanwenog B; 3ydd Sioned Davies, Llanwenog A.

Siaradwr – 1af Meleri Morgan, Llangeitho; 2il Lowri Jones, Lledrod; 3ydd Elin Calan Jones, Llangwyryfon.

Tîm – 1af Lledrod; 2il Pontsian; 3ydd Llangeitho.

Yn y gystadleuaeth 26 oed neu iau – Siarad ar ôl Cinio – bu 9 o dimau yn cystadlu gyda Mr Andrew Jones yn barnu a dyma’r canlyniadau:

Cadeirydd – 1af Cennydd Jones, Pontsian B; 2il Morys Ioan, Caerwedros; cydradd 3ydd Lowri Davies, Llanwenog a Hannah Parr, Llangeitho.

Siaradwr – 1af Enfys Hatcher, Llanwenog A; 2il Luned Mair, Llanwenog B; cydradd 3ydd Dyfrig Williams, Llangwyryfon A ac Elin Jones, Llanwenog A.

Tîm – 1af Llanwenog A; 2il Pontsian B; 3ydd Llanwenog B.

Cynhaliwyd cystadleuaeth ychwanegol yn ystod y diwrnod – Ymgeisio am Swydd – a beirniadwyd y gystadleuaeth hon gan Dwynwen Lloyd Llywelyn – 1af Eiry Williams, Llangwyryfon; 2il Megan Jenkins, Llanddewi Brefi.

Diolch yn fawr i Gwasg Gomer, am noddi’r gystadleuaeth.

Diolch i Radio Beca am gyd-weithio gyda ein aelodau i greu yr darllediad cyntaf byw gan swyddogion CFfI Ceredigion. Mae modd i chi ei gweld ar www.radiobeca.cymru. Diolch hefyd i gwmni Deli Ty Croeso am baratoi’r lluniaeth ar y dydd.

Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen yn awr i gynrychioli CFFI Ceredigion yng nghystadlaethau Siarad Cyhoeddus Cymru a fydd yn cymryd lle yn Llanelwedd ar Ebrill 2.