CYN hir, efallai bydd nifer o ddynion o ardal Castellnewydd Emlyn i'w gweld ar lwyfannau eisteddfodau ac mewn cyngherddau wrth i griw o'r dref geisio sefydlu Côr Meibion Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn.

Y bwriad yw creu mwy eto o ddiddordeb canu corawl yn Nyffryn Teifi ac os ydych chi'n gallu canu 'mewn tiwn' – mae croeso cynnes i chi i ymuno â nhw!

Anelir y côr yn bennaf, at fechgyn ifanc i fyny at ryw 40 oed, gyda chefnogaeth (trwy wahoddiad) gan aelodau aeddfetach a chyn chwaraewyr i'r clwb. Nid oes angen y gallu i ddarllen cerddoriaeth no phrofiad o ganu o gwbl.

Yn ôl Cefin Evans, un o’r dynion brwd tu ôl i’r cynllun, mae’n syniad da cael y dynion ynghyd, i ymarfer eu lleisiau a chael hwyl.

Meddai: "Gobeithio fydd e’n rhywbeth llwyddiannus. Mae tipyn o siarad wedi bod ar hyd y blynyddoedd a sawl clwb arall wedi sefydlu côr yn yr ardal, fel Crymych ac Aberteifi a meddwl byddai lot o ddiddordeb gan y bobl hynny sydd efallai am fod mewn côr yn yr ardal, ond erioed wedi ymaelodu."

Mae 'na arweinydd a chyfeilyddes eisoes wedi cytuno i fod yn rhan o sefydlu'r côr – a fydd, gobeithio, yn ymarfer bob nos Fawrth drwy dymor yr hydref a'r gaeaf.

Cynhelir cyfarfod, i brofi maint y diddordeb heno, sef nos Fawrth (Medi 29) am 8 o'r gloch yn y Clwb Rygbi ar Ddôl Wiber. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Gari Morgan ar 07968 536949 neu Cefin Evans ar 07879 841673.