Aeth wyth o ddisgyblion blwyddyn 7 i ysgolion cynradd Bro Ingli a Glannau Gwaun ar Ddydd Mawrth 12fed o Fai 2009. Yno bu’r disgyblion yn cyflwyno gwybodaeth amrywiol i ddysgyblion blwyddyn 6 am eu profiadau hwy yn yr Ysgol Uwchradd ym mlwyddyn 7.

Molly Griffiths oedd cyflwynydd y disgyblion ac yn sicrhau rhediad trefnus y gwaith. Cyflwynodd Joshua Macleod wybodaeth iddynt ar ei brofiad cyntaf o Eisteddfod yr Ysgol, a bu Amy Jones yn sôn am weithgareddau Dydd y Cynradd ar Fawrth 18fed 2009. Dyma’r diwrnod ymwelodd disgyblion blwyddyn 6 a’r adran Gymraeg yn Ysgol Bro Gwaun, a gwelwyd amrywiol luniau ar y ffram digidol o’r diwrnod hwnnw. Trafod chwaraeon yn yr Ysgol bu William Evans a Ben Floyd, a sôn am ei hoff a’i gas bynciau bu Ieuan Edmonds. Daeth uchafbwynt yr ymweliad o wefusau Ben Lawrence wrth iddo rannu ei ddawn o chwarae ei offeryn, y trwmped. Fe gyflwynodd Ben wybodaeth hefyd ar ei hoff a’i gas bynciau Ysgol. Gwnaeth Beth Evans gyflwyno portread o Mrs Elizabeth Hooper ac hefyd disgrifio ei diwrnod cyntaf yn Ysgol Bro Gwaun. Diolch i holl ddisgyblion blwyddyn 7 fu ar daith gyda’r Cylchgrawn Cynradd, a diolch i Miss Lewis am drefnu’r weithgaredd.