MAE Beth Davies o Landysul yn adnabyddus iawn i nifer. Mae Llandysul a’r dalgylch yn bwysig iddi ac mae’r elfen o gymdeithasu a chynnal digwyddiadau i godi arian a dod â phawb at ei gilydd yn chwarae rhan flaenllaw yn ei bywyd.

Yn ystod y ddeufis diwethaf, cafodd ei hethol fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Llandysul ac ym mis Mehefin, cafodd ei hordeinio fel diacon yn yr eglwys Gadeiriol yn Nhy Ddewi.

"Yn wir, mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn arbennig iawn - yn gyntaf cael fy ethol fel gadeirydd Cyngor Cymuned Landysul drwy fod yn gynghorydd Ward Tre-groes, rhywbeth sydd yn bwysig iawn i mi fel un â gwreiddiau dwfn iawn yn nyffryn Cerdin a braint o’r mwyaf oedd cymryd y rôl yma.

"Yna ym mis Mehefin, cael fy ordeinio fel diacon a hyn hefyd yn dipyn o anrhydedd i mi yn ogystal ag i eglwys Tre-groes, i’r plwyf a'r gymuned," esboniodd Beth.

"Wrth feddwl am y ddwy swydd yma, teimlaf fod yna gysylltiad o weini ynddynt wrth i mi wasanaethu’r eglwys a’r aelodau a hefyd trigolion yr ardal. Mae fy niolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth y diwrnod ordeinio yn un arbennig a bythgofiadwy i mi yn bersonol ac mi hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb am y dymuniadau da, y galwadau ffôn, y cardiau, yr anrhegion a’r cyfarchion.

"Mae fy nyled yn fawr iawn i bawb am bopeth ac amhosibl yw i mi anfon gair o ddiolch at bob un yn unigol felly gobeithio y medrwch dderbyn fy niolch gwresocaf."

Mae cyfnodau o waith prysur o flaen Beth, ond fel un sydd yn hoff o her a gwaith caled, a Sioe Amaethyddol Llandysul ar y gorwel, a hithau’n ysgrifenyddes, mae bywyd yn mynd i fod yn ddiddorol.

Meddai gyda gwen: "Gobeithiaf yn fawr y gallaf wasanaethu'r aelodau a’r eglwysi, ynghyd â’r Arglwydd am flynyddoedd i ddod a’r unig ffordd y medraf wneud hyn yw drwy gyd weithio gyda chi ac mae’n rhaid i mi ddiolch i bawb am yr anogaeth a'r gefnogaeth rwyf wedi ei dderbyn gan sut gymaint ar hyd y blynyddoedd a hynny i ddechrau yn eglwys Tre-groes yn ogystal â’r eglwysi eraill ‘rwyf wedi bod yn gwasanaethu ynddynt. Diolch o galon i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl i mi."