CYNHALIWYD cyfarfod mis Hydref o Cylch Cinio Teifi yng Ngwesty’r Cliff ar nos Fercher 28. Dilwyn Jenkins oedd yn y gadair ac wrth estyn croeso i’r aelodau dywedodd fod yna lythyr wedi ei dderbyn oddiwrth Jean, gweddw y diweddar Sid Jones, yn diolch am y rhodd er cof am Sid. Gofynnwyd gras gan Gareth Evans cyn troi at y byrddau.

Yn dilyn y pryd bwyd cyflwynodd y cadeirydd y wraig wadd , Carol Byrne Jones. Gwraig sydd a’i gwreiddiau yng Nghastellnewydd Emlyn, ond er teithio a gweithio dros y byd, yn awr yn byw yn Aberporth. Gan fod y flwyddyn yma yn flwyddyn dathlu canmlwyddiant geni’r awdur a bardd T Llew Jones priodol oedd cael darlith am y gwr a’i waith.

Carol Byrne Jones oedd yn gyfrifol am wneud y ffilm Tân ar y Comin wedi ei seilio ar un o lyfrau T Llew Jones. Cafwyd hanes y fenter o’r cychwyn cynta pan feddyliwyd am wneud ffilm. Ymateb y bardd i’r syniad ac yna chwilio am nawdd a chyllid i gario’r syniad allan. Aeth sawl blwyddyn heibio a nifer fawr o gyfarfodydd a thrafodaethau cyn bod y ffilm yn cael ei saethu.

Fel y mae’r mwyafrif yn gwybod lleoliadau yn ardal Castellnewydd Emlyn a dyffryn Teifi a ddefnyddiwyd. Cymerwyd rhan gan nifer fawr o blant ac oedolion yr ardal ynghyd a rhai o actorion enwog o Loegr ac America.

Un peth oedd yn unigryw i’r ffilm oedd ei bod wedi cael ei chynhyrchu yn ddwyieithog.Gwneud golygfa yn Gymraeg ac yna’r un olygfa yn Saesneg. Erbyn hyn mae’r ffilm wedi ei dangos dros y byd a’i throsi i ieithoedd eraill.

Yn dilyn noson ddiddorol dros ben, addas iawn oedd galw ar nai i T Llew Lones, sef Jon Meirion, i dalu’r diolchiadau.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Fercher, Tachwedd 26, yng Ngwesty’r Cliff a hynny yng nghwmni’r gwragedd.