MERCHED Y WAWR CYLCH LLANDYSUL: Fe ddechreuwyd tymor newydd o Ferched y Wawr – Cylch Llandysul yng nghanolfan y Pwerdy, Pontweli nos Iau, Medi 10. Croesawodd y llywydd Nesta Evans nifer o’r aelodau presennol yn ôl ynghyd a chroesawi un aelod newydd, Mrs Gerelin Davies, i’n plith. Diolchodd i Sheila Freeman am roi y raffl a’r enillydd oed Jean Lloyd hefyd diolchodd i Eirian, Joan ag Olive am fod yng ngofal y tê.

Ein gwraig wadd am y noson oedd Elinor Wyn Reynolds sydd yn olygydd yng Ngwasg Gomer a’r testun am y noson oedd ‘Anturiaethau mewn Barddoniaeth’. Bu'n darllen o’i gwaith a oedd yn sôn am ei phrofiad ag anturiaethau ei bywyd, e.e. anghofio ei PJs yn ty Menna Elfyn wedi aros y nôs yno. Cafwyd noson ysgafn gyda llawer o hiwmor a phawb wedi mwynhau.

Mis nesaf, nos Iau, Hydref 8, rydym yn mynd i ymweld â Celtic Winery yn Henllan gan orffen y noson gyda phryd o fwyd yn Tafarn Ffostrasol.

MERCHED GLANNAU TEIFI: Ar nôs Lun, Medi 14, fe croesawodd Mabel Adams yr aelodau yn ôl i Gwesty’r Porth i ddechrau tymor newydd. Cyn eistedd i wledda fe ddosbarthwyd arian i dair elusen, £500 i Ambiwlance Awyr Cymru, £500 i Canolfan Ddwr Llandysul a £200 i Apêl Nepal gan bwyllgor y flwyddyn flaenorol dan lywyddiaeth Ann Phillips.

Ein gwr gwadd am y noson oedd Mr Aneurin Roberts a ddaeth i dderbyn y siec ar ran yr Ambiwlance Awyr a fu wedyn rhoi cefndir yr elusen a’i gwaith. Diolchwyd iddo gan Helena Lewis. Roedd y raffl yn roddedig gan Helena Lewis a’r enillydd oedd Carol Bundock.

Mis nesaf, nos Lun, Hydref 12, mi fydd Amy Hiddleston-Morgan yn siarad â ni am cwn tywys i’r byddar.