Tivyside Advertiser - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Ceredigion

I'm looking for celebrations
Acknowledgement

Mrs Janet James

Published on 22/12/2020

MRS JANET JAMES, Tredryssi Fawr, Trefdraeth, Sir Benfro. Dymuna Gareth, Geraint, Lynn a'r Teulu, ddiolch yn fawr iawn i Berthnasau, Ffrindiau, Cymdogion a Chydnabod am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth llynedd o golli Janet. Dymunent ddiolch i'r Parchedigion Alwyn Daniels, Gareth Morris ac Eileen Davies am wasanaeth cofiadwy, ynghyd ag ymddiheuriadau am eu absenoldeb gan y Parchn. Carys Ann, Huw George a Howell Mudd. Diolch hefyd i'r organydd Mrs Meinir Garnon James a Swyddogion Capel Blaenwaun, Llandudoch am eu cyd-weithrediad; i'r Archgludwyr; Aelodau Pwyllgor CAFC Preseli am ddosbarthu'r taflenni a gofalu am y gynulleidfa; a chyd weithwyr Geraint am ofalu am y Parcio. Diolch i Mr David Lewis, Llandysul am dderbyn y rhoddion a ddaeth i gyfanswm o £2100.00, sydd wedi cael eu rhannu rhwng Sefydliad Gofalwyr Paul Sartori, a Nyrsis y Gymuned, Trefdraeth, a wnaeth ofalu am Janet mor dyner a didwyll yn ystod cyfnod olaf ei gwaeledd. Diolch hefyd i Rhyswyn Thomas, Treletert am y system sain; i Marilyn a Meleri Ennis, Maenordy Llwyngwair am y lluniaeth, ac yn arbennig i'r Meistri Paul, Matthew a Luke Jenkins, Ymgymerwyr, Abergwaun, am eu trefniadau manwl, gofalgar ac urddasol. Diolch yn Fawr i bawb.


Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.