Tivyside Advertiser - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Ceredigion

I'm looking for celebrations
Acknowledgement

Evan David (Dewi) Williams

Published on 27/08/2019

Evan David Williams (Dewi) Sunny Hill Cottage, Castell Newydd Emlyn Dymuna teulu y diweddar Dewi ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli un mor annwyl. Diolch yn arbennig i'r holl ffrindiau, cymdogion a'r cysylltiadau a ddaeth i dalu'r deyrnged olaf i Dewi. Diolch am wasanaeth y Parchedigion Carys Ann, Gareth Morris a Dorian Samson a'i briod yr Organyddes Mrs Eleri Samson. Diolch i Mari Wyn, un o ffrindiau niferus Dewi o Gapel Bethel am gyflwyno Teyrnged arbennig iddo. I Bopty Bach y Wlad am y lluniaeth hyfryd. Diolch am y cyfraniadau caredig er cof tuag at Capel Bethel, Achos oedd mor agos at ei galon. Diolch i'r Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pâl am drefnu'r angladd gyda pharch ac urddas.


Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.