Tivyside Advertiser: Urdd 2010

Rhwng 31 Mai a 5 Mehefin 2010, caiff safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron ger Aberaeron ei drawsnewid i gynnal Eisteddfod yr Urdd, g wyl ieuenctid ddiwylliannol Cymru. Bydd hyd at 100,000 o ymwelwyr a 15,000 o gystadleuwyr yn rhan o fwrlwm yr wyl a chynulleidfa deilwng yn gwylio’r cyfan ar y teledu. Gyda goreuon ieuenctid Cymru yn cystadlu mewn cystadlaethau canu, llefaru, actio, drama, dawnsio, cyfansoddi, barddoni, celf, dylunio a thechnoleg a llawer mwy, bydd digon o gyffro i’w weld a’i glywed yn lleoliad ysblennydd Llanerchaeron dros wythnos hanner tymor.

  • Hyd at 200 o stondinau yn hyrwyddo gwasanaethau, cynnyrch a chelf o Gymru
  • Arddangosfa o waith Celf, Dylunio a Thechnoleg buddugol
  • Cystadlu brwd ar lwyfan y Pafiliwn a’r stiwdios perfformio
  • 450 o gystadlaethau a 15,000 o gystadleuwyr
  • Cyngherddau, sioeau a chystadlu gyda’r hwyr
  • Pentref Mistar Urdd, ble fydd holl elfennau amrywiol y mudiad oddi mewn i un ardal fawr, gan gynnwys y wal ddringo a thrampolîn
  • Perfformiadau byw ar hyd a lled y maes
  • Criw Podledu’r Urdd yn darlledu’n ddyddiol o’r Uned Bodledu
  • Ffair
Tivyside Advertiser: Map

Croeso i Lanerchaeron

Lleolir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 ar stâd brydferth Llanerchaeron. Cynlluniwyd ac adeiladwyd Llanerchaeron gan John Nash yn yr 1790au. Mae’r adeiladau, y llyn a’r gerddi godidog wedi eu hadnewyddu’n ofalus ac yn sicr o ddarparu cefnlen ddramatig i’r w ˆ yl. Gyda fferm weithredol, organig ac aceri o dir sy’n cynnig teithiau cerdded a golygfeydd hyfryd o Ddyffryn Aeron, cewch fanteisio ar y cyfle i ymweld â’r plasdy hyfryd hwn wrth ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan urdd.org

urdd.org/eisteddfod
0845 2571639


Tivyside Advertiser: PDF ICON LAWRLWYTHIAD PDF YMA