Gan Anwen Francis

Am yr ail dro yn ei hanes, mae carfan rygbi dan-18 Ysgol y Preseli wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol cwpan Ysgolion Cymru.

O dan arweiniad y capten dylanwadol, Jon Hill, dechreuodd yr ymgyrch gartref yn erbyn Ysgol y Strade ar Ionawr 18 gyda buddugoliaeth o 20-15. Yna, bythefnos yn hwyrach, cafwyd perfformiad arbennig i gyrraedd yr wyth olaf yn erbyn Ysgol Bro Dinefwr gan ennill 42-19.

O ganlyniad i eira a chyfnod hir o dywydd gwlyb, roedd rhaid chwarae rownd yr wyth olaf a'r rownd gyn derfynol mewn un wythnos ar ddiwedd mis Mawrth.

Cafodd gêm yr wyth olaf ei chwarae mewn amodau trwm iawn ar gae Ysgol y Preseli yn erbyn Ysgol Ystalyfera ar ddydd Mawrth 27 Fawrth. Er i Preseli fod ar y blaen o 15-7 ar hanner amser fe darodd Ystalyfera yn ôl i ddod o fewn pwynt i Preseli yn syth ar ôl yr hanner.

Ar ôl cyfnod pryderus, fe lwyddodd Preseli i gadw meddiant yn effeithiol ac ennill 23-14 yn y diwedd.

Ddydd Iau, Mawrth 29, roedd rhaid chwarae eto, yn y rownd gyn derfynol, yn erbyn Ysgol Maes y Gwendraeth. Roedd y bechgyn eisoes wedi cael gêm anodd yn erbyn Maes y Gwendraeth cyn Nadolig yng nghystadleuaeth enillwyr y cynghreiriau, a chanlyniad y gêm honno oedd 25-25.

Gyda thri chwaraewr allweddol ar daith yr ysgol i Wlad yr Iâ, a llawer o'r bechgyn yn flinedig ers y gêm dau ddiwrnod yng nghynt, roedd y bechgyn yn disgwyl gêm anodd iawn.

Meddai cynrychiolydd o'r ysgol: "O dan reolau'r gystadleuaeth nid oedd hawl gan y tîm cartref chwarae ar gae'r ysgol ac rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Rygbi Castell Newydd Emlyn am adael i ni chwarae'r gêm ar ei gaeau.

"Fe ddechreuodd Preseli yn bwrpasol gan gadw'r bêl yn dda a rhoi Maes y Gwendraeth o dan bwysau yn gynnar."

O ganlyniad, fe sgoriodd Preseli dri chais o fewn 20 munud i wneud y sgôr yn 21-0. Fe gafodd Maes y Gwendraeth gyfnod da am y 10 munud nesaf ond fe arhosodd amddiffyn Preseli yn gadarn gan sgorio cais arall cyn yr egwyl i wneud y sgôr yn 28-0 ar hanner amser.

Gwnaeth bechgyn y Preseli amrywio'r chwarae rhwng y blaenwyr a'r olwyr yn yr ail hanner ac er i Faes y Gwendraeth sgorio un cais, fe enillodd Ysgol y Preseli'r gêm 56-5.

Fe weithiodd y sgrymiau a'r llinellau yn arbennig ac fe gariodd y rheng flaen o Math Iorwerth, Morgan James a Llew Bevan yn effeithiol iawn. Roedd Joey Mathias a Jon Hill yn amlwg iawn yn y rheng ôl ac fe lywiodd yr haneri, Iwan Toft a Jac Davies, yn chwarae yn aeddfed.

Unwaith eto, yn yr olwyr, roedd Callum Williams a Hedd Nicholas yn wych ac fe ddaeth Alex Varney ymlaen yn yr ail hanner i achosi rhagor o ben tost i Faes y Gwendraeth. Perfformiad tîm oedd hwn, ac fe gafodd pob aelod o'r garfan amser ar y cae.

I goroni'r fuddugoliaeth, fe lwyddodd y maswr, Jac Davies, i gicio pob un trosiad, wyth allan o wyth.

Mewn 12 mlynedd, dyma'r pumed tîm o Ysgol y Preseli i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Ysgolion Rygbi Cymru, record mae'r adran addysg gorfforol a'r ysgol yn falch iawn ohoni.

Mae'r rownd derfynol eleni yn mynd i gael ei chwarae yn erbyn Ysgol Brynteg, Pen-y-bont, ar Stadiwm y Principality, Caerdydd ar ddydd Mercher, Ebrill 18, am 4.30yp.

Mae'r ysgol a'r garfan yn ddiolchgar iawn i'r cwmnïoedd sydd wedi noddi'r bechgyn ar gyfer y ffeinal, sef: Caffi Beca, Popty JK Lewis, Mansel Davies a'i Fab, Brandon Hill Capital, Cyfrifyddion DMB Davies a Harries Planning Design Management.