Mae cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar draws Sir Gaerfyrddin.

Mae Grwp Partneriaeth Mentrau Sir Gâr yn ymgynghori ar Strategaeth Iaith i’r Sir.

Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Gâr, Menter Bro Dinefwr, Menter Cwm Gwendraeth, Menter Gorllewin Sir Gâr a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Gweledigaeth y Strategaeth yw gweld sefydliadau a mudiadau’r sir yn cydweithio gyda’i gilydd a chyda phobl y sir, o bob cefndir, i sicrhau fod mwy o bobl Sir Gâr yn gallu deall, siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg ac yn ei defnyddio’n hyderus ac yn gynyddol ymhob agwedd o fywyd cyhoeddus y sir ac yn eu bywydau beunyddiol.

I’r perwyl hynny, deisyfiad y Strategaeth yw: • Cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl o bob oedran i ddysgu Cymraeg • Parhau i gynyddu’r ystod o wasanaethau cyhoeddus sydd ar gael i bawb drwy gyfrwng y Gymraeg ac annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny • Cynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd • Cynyddu’r ystod a’r nifer o ddigwyddiadau lleol a gweithgareddau cymdeithasol lle defnyddir y Gymraeg.

Bwriad y Strategaeth Iaith yw gosod nodau clir i bawb sy’n gweithio yn Sir Gâr er mwyn hyrwyddo, cefnogi a sicrhau defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yn Sir Gâr.

Mae gan Strategaeth Iaith Sir Gâr 5 nod uchelgeisiol ond cyraeddadwy sef: • Cynyddu nifer a chanrannau sy’n siarad Cymraeg, • Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chodi hyder siaradwyr Cymraeg, • Cynyddu’r cyfleoedd i ddysgu a hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg, • Cynnal a datblygu cymunedau a rhwydweithiau hyfyw o siaradwyr Cymraeg, • Datblygu a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg a gweithleoedd dwyieithog.

Dywedodd Cynghorydd Clive Scourfield, yr aelod o’r Bwrdd Gweithredol â chyfrifoldeb am y Strategaeth Iaith Gymraeg: "Rwy’n falch bod Cyngor Sir Gâr yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau ar draws Sir Gaerfyrddin i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, i gynyddu’r nifer sy’n dysgu’r iaith ac i godi hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau beunyddiol.

Yn Sir Gâr cynigir ystod eang o gyrsiau i oedolion sy’n dymuno dysgu Cymraeg a mynychodd tua 1258 o bobl dros 135 o gyrsiau addysg gymunedol y flwyddyn ddiwethaf. Serch hynny, hoffwn adeiladu ar hyn yn y dyfodol.

Hoffwn hefyd gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl gyfarfod a rhwydweithio yn y gymuned gan ddefnyddio’r iaith Gymraeg a bod y digwyddiadau a’r gweithgareddau cymdeithasol fel pont rhwng siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg, yn enwedig i’r rhai hynny sy’n dysgu’r iaith.

Mae Sir Gâr yn sir gwbl ddwyieithog, sir sydd â thros 50% o bobl leol yn siarad Cymraeg eisoes. Yn y blynyddoedd nesaf, rydym yn edrych ymlaen at y sialens gyffrous o adeiladu ar y sylfaen gadarn hon, mewn ffordd sy’n uno’r gymuned leol - siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg - i ddathlu’r dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog."

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Fel Cadeirydd y Bwrdd, ac fel un sy’n byw a gweithio yn Sir Gaerfyrddin, rwy’n hynod o falch i weld y cynlluniau hyn. Cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yw’r allwedd i gynyddu’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg. Fel mudiadau a sefydliadau sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn yng nghymunedau Sir Gâr, mae’r partneriaid hyn yn meddu ar adnabyddiaeth dda o’r ardal a’i phobl, ac mewn sefyllfa ragorol i gyfrannu syniadau cyffrous a chyraeddadwy a fydd yn rhoi hwb gwirioneddol i’r iaith ar draws y sir."

Dywedodd Euros Owen, Cadeirydd Gr_p Partneriaethol Mentrau Sir Gâr: "Mae’r Bartneriaeth yn falch o weld cyhoeddi’r Strategaeth Iaith Ddrafft, ddatblygwyd ar y cyd rhwng y Cyngor Sir, Bwrdd yr Iaith a’r Mentrau, ar gyfer ymgynghoriad. Un o fwriadau’r Strategaeth yw cryfhau’r strwythur ar gyfer cefnogi a datblygu defnydd y Gymraeg ar draws y Sir gan gynnwys trefniadau gweithredu mewn partneriaeth rhwng asiantaethau. Gobeithiwn y bydd mudiadau, darparwyr gwasanaethau, grwpiau ac unigolion yn ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau strategaeth weithredol fydd yn cwrdd ag anghenion pawb."

Mae’r Strategaeth wedi cael ei rhyddhau ar gyfer ymgynghori cyhoeddus yn ystod mis Hydref gan orffen ar 16 Tachwedd. Darllenwch y Strategaeth Iaith ar www.partneriaethsirgaerfyrddin.org.uk neu cysylltwch am gopi papur naill ai dros y ffôn ar 01267 224008 neu e-bostiwch IaithGymraeg@sirgar.gov.uk. Gwerthfawrogwn eich sylwadau a syniadau er mwyn gweithredu at y dyfodol. Anfonwch eich adborth at y cyfeiriad e-bost uchod neu trwy’r post: Iaith Gymraeg, Polisi a Chynllunio Cymunedol, Cyngor Sir Gâr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.

Cynhelir seminar fel rhan o’r ymgynghoriaeth ar ddydd Gwener, 6 Tachwedd yng Nghwrs Rasio Ffos Las. Cysylltwch i gofrestru os ydych am fynychu.

Nodyn i’r Golygydd: am ragor o wybodaeth cysylltwch â Roger Butler, swyddog y wasg, ar 01267 224114.