Gan Anwen Francis.

Nos Sadwrn yma, fe fydd ffans Newshan yn falch o glywed eu hoff band yn perfformio yng Nghastellnewydd Emlyn, a hynny er mwyn codi arian i Glwb Rygbi’r dref. Mae disgwyl tyrfa lu yng Ngwesty’r Emlyn Arms am 8yh i ddawnsio i’r band talentog a phoblogaidd yma.

Mae grwpiau a chymdeithasu bob amser yn chwilio am ffyrdd o godi arian, a Chlwb Rygbi’r dref ddim yn eithriad. Bydd yr arian a godir ar y noson yn mynd tuag at apêl adeiladu'r clwb newydd (club house) ar safle Dol Wiber ble mae’r caeau chwarae eisoes. Ac un sy’n edrych ymlaen yn arw at y noson wedi gêm o rygbi adref yn erbyn tîm cyntaf Crymych yw Emyr Jones.

“Ry’n ni’n gobeithio y bydd tyrfa yn troi lan i gefnogi’r noson yma. Bydd cael clwb newydd yn gyfraniad mawr i ddyfodol rygbi'r dref ac i’r gymuned yn gyfan gwbl. Mae’r clwb rygbi yn boblogaidd iawn gyda chlwb i blant bach dan wyth oed ac o dan 16 ac weithiau ar ddydd Sul, mae dros ddau gant o blant yn ymgynnull ar y cae i chwarae a dangos eu doniau. Gobeithio bydd y clwb newydd yn lle ble fydd pawb yn ymgynnull ac ynghlwm â’r peth a bydd hyd yn oed mwy o aelodau yn ein cefnogi,” medde Emyr sy’n wyneb cyfarwydd iawn ym myd rygbi ac yntau wedi chwarae i Gastellnewydd Emlyn ers yr oedd yn blentyn.

Ers chwarae i’r tîm iau, y tîm ieuenctid ac yna’r tîm cyntaf, aeth Emyr, sy’n dad i Cian, pedair oed a Bobi, dwy, ymuno â’r Sgarlets yn Llanelli yna’r Quins yng Nghaerfyrddin cyn mynd ymlaen i chwarae i Felin-foel.

Erbyn hyn, mae Emyr nôl yn chwarae i dîm cyntaf Castellnewydd Emlyn fel canolwr.

“Mae’n neis cael chwarae i dîm cartref to. Dw i wedi teithio tipyn yn mynd i hyfforddi a chwarae gemau dros y blynyddoedd ac mae’n neis cael chwarae ar garreg drws,” medde’r canolwr. “Mae’n gyfleus hefyd gan fod y plant gyda fi nawr.”

Mae’r apêl o godi arian ar gyfer adeilad y clwb newydd eisoes wedi dechrau gyda sawl cefnogwr lleol wedi dechrau codi arian mewn gwahanol ffyrdd er enghraifft ‘prynu bric’ ar gyfer ei osod yn yr adeilad newydd, ac mae’r cynllun yma wedi profi’n llwyddiant ysgubol.

“Bydd balconi yn yr adeilad newydd a fydd yn caniatâi i gefnogwyr wylio’r gêm. Ac fe fydd hi’n safle lle caiff chwaraewyr a chefnogwyr gymdeithasu cyn ac ar ôl y gêm hefyd,” dywedodd Emyr sy’n gweithio i’r frigad dân yng Nghaerfyrddin. Ychwanegodd: “Yr adeilad newydd fydd yr elfen olaf a fydd yn gwneud y clwb rygbi yma yn gyflawn. Bydd gwell cyfleusterau gyda ni na’r hyn sydd gan nifer o glybiau mawr a gobeithio y byddwn ni’n denu aelodau a chwaraewyr newydd.”

“Ar hyn o bryd, mae’r sail wedi ei osod, ond pryd bydd yr adeilad yn barod yw cwestiwn arall. Mae’r cyfan yn dibynnu ar arian. Gobeithio y bydd hi wedi ei gorffen erbyn diwedd y tymor cystadlu ym mis Mai neu o fewn y flwyddyn.”

Mae tocynnau ymlaen llaw yn £8 neu’n £10 wrth y drws. Gellir cael gafael ar y tocynnau yn uniongyrchol o Westy’r Emlyn Arms neu drwy gysylltu gydag aelodau o’r Clwb.