Y cynta’ o’i fath yn Gymraeg – gwahanol i ddim byd arall.

Heddiw (dydd Gwener, Mai 15), mae cwmni Golwg Newydd yn lansio’r wefan newyddion a materion cyfoes gynta’ annibynnol yn Gymraeg.

Mae gwasanaeth Golwg360 yn cael ei ystyried yn un o’r datblygiadau pwysica’ i’r wasg Gymraeg gan dorri tir newydd i’r iaith ac i wefannau newyddion.

Mae’n cael ei lansio yn Llandudno heddiw gan Weinidog Treftadaeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones AC – mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu grant o £200,000 y flwyddyn tuag at y datblygiad dros dair blynedd.

Wrth lansio’r gwasanaeth newydd, fe ddywedodd y Gweinidog Treftadaeth: "Rwy’n hynod falch o allu lansio Golwg360 heddiw ac yn dymuno pob llwyddiant i’r fenter wrth i’r gwasanaeth ddatblygu dros y misoedd nesaf.

"Yn sicr, mae yn ddiwrnod cyffrous iawn ym myd newyddiaduraeth yn yr iaith Gymraeg ac y mae Llywodraeth y Cynulliad yn gefnogol o gryfhau'r ddarpariaeth o ran newyddiaduraeth trwy'r Gymraeg; mae’r fenter yma yn fuddsoddiad pwysig i'r dyfodol."

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, sy’n gweinyddu’r grant newydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Bu cystadlu ffyrnig am y tendr i gryfhau’r wasg Gymraeg, ond cais gan gwmni Golwg a orfu yn y pen draw, a hynny am iddynt gynnig pecyn deniadol a chynhwysfawr oedd yn cynnwys gwasanaeth newyddion (a llawer mwy) ar-lein ynghyd â chynlluniau i atgyfnerthu’r cylchgrawn print Golwg.

"Mae’r Cyngor Llyfrau’n falch iawn fod y cynllun yn cael ei wireddu heddiw, ac yn dymuno pob llwyddiant i’r tîm wrth iddynt barhau i ddatblygu’r wefan a chylchgrawn Golwg dros y misoedd nesaf."

Newyddion trwy’r dydd Fe fydd Golwg360 yn cynnwys straeon newyddion sy’n cael eu hadnewyddu trwy’r dydd a chyfle i fusnesau, cyrff, cymunedau ac unigolion gymryd eu tudalennau eu hunain ar y wefan.

Mae llawer eisoes wedi cymryd eu lle ar y wefan – o ranbarth rygbi’r Scarlets i rai o brif arlunwyr Cymru; o S4C i ffotograffwyr a bandiau roc.

Ar ôl cael ei brofi’n fewnol yn ystod yr wythnosau diwetha’, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei agor i’r cyhoedd er mwyn ei brofi ymhellach – fe fydd y gwasanaeth newyddion yno’n llawn o’r dechrau ac elfennau eraill yn cael eu hychwanegu wrth i Golwg Newydd dderbyn ymateb a sylwadau.

Datblygiad pwysig Mae Golwg Newydd yn chwaer gwmni i Golwg, sy’n cyhoeddi’r cylchgrawn wythnosol o’r un enw ac fe fydd hwnnw hefyd ar ei newydd wedd yr wythnos hon, gyda rhagor o dudalennau a mathau newydd o straeon a cholofnau.

"Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i Golwg, i’r wasg Gymraeg a, gobeithio, i’r iaith Gymraeg ei hun," meddai Cadeirydd Golwg Newydd, Gwynfryn Evans. "Ar adeg o gyni, mae’n wych gweld gwasanaeth newydd hanesyddol yn cael ei greu."

Mae’r ddau gwmni yn cyflogi cyfanswm o naw o staff newydd, gan gynnwys pedwar o newyddiadurwyr llawn amser ac eraill ar gytundebau llawrydd.

"Mi fydd hwn yn wasanaeth i bawb, ym mhob ffordd," meddai Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth. "Mi fydd yn cynnwys pob math o newyddion a gwybodaeth ac, yn y pen draw, mi fydd cyfle i bawb gyfrannu a chyhoeddi eu tudalennau eu hunain.

"Mae’n wasanaeth i Gymru gyfan ac i siaradwyr Cymraeg ar draws y byd ," meddai Prif Weithredwr y gwasanaeth newydd, Ioan Wyn Evans. "Dyna un rheswm dros lansio yn Llandudno yn hytrach nag yn ein swyddfeydd yn Llanbed neu Gaernarfon – does dim gwahaniaeth lle’r ydech chi, mae Golwg360 ar gael."

Mae nifer o ysgolion, er enghraifft, wedi creu llefydd ar y wefan ac fe fydd cynrychiolwyr rhai ohonyn nhw yn y lansiad.

Cwmni Tinopolis o Lanelli sy’n benna’ gyfrifol am ddatblygu’r feddalwedd ar gyfer y safle – gan gyfrannu’r gwaith am ddim fel cyfraniad at y gwasanaeth.