Mae dydd Sadwrn olaf mis Ebill yn ddiwrnod pwysig yn nhref Aberteifi ers blynyddoedd.

Dyma’r diwrnod a elwir yn ddydd Sadwrn Barlys a bydd tyrfa enfawr yn heidio i’r dref er mwyn gweld ceffylau yn carlamu drwy’r strydoedd yn dilyn y sioe. Yn draddodiadol dyma’r diwrnod i ddatgan bod y tir wedi ei baratoi, yr hadau yn y pridd a chyfle i’r gweision ddathlu hynny. Un peth sy’n sicr, fe fydd enillwyr y cwpanau eleni yn siwr o ddathlu!

I un awdures o Aberteifi, sy’n bridio ac arddangos ceffylau shetland, mae dydd Sadwrn Ebrill 25 yn ddiwrnod pwysig am reswm arall. Bydd Anwen Francis yn lansio Siani am Byth, chweched nofel cyfres Siani’r Shetland, yn siop Awen Teifi o 11 o’r gloch ymlaen. Bydd tipyn o gob yn ymuno â hi am hanner dydd, Dewi Pws o Dresaith, a cheir dyfyniad o’i eiriau ar siaced y llyfr.

Meddai Dewi "Ma Siani am Byth yn carlamu’n ddi-stop o’r storom ofnadwy ar y dechre hyd ar y gacen siocled ola. Ges i’r union run pleser o ddarllen y stori ag ‘ron i’n ca’l bob pnawn dydd Gwener yn Ysgol Lonlas wrth wrando ar ein athro, Mr Phillips, yn darllen straeon am ddynion drwg, smyglars a lladron pen ffordd."

Dyma’r llyfr olaf yng nghyfres anturiaethau Siani’r Shetland ac mae hi wedi bod yn un helynt ar ôl y llall ar Fferm Parc yr Ebol. Stormydd mellt a tharanau, llifogydd, diflaniad Aneirin yr asyn, anaf i Beca heb sôn am y lladron. Ond o leiaf daw Sioe Aberteifi i godi tipyn ar hwyliau pawb. Ynghanol yr holl helynt, mae un peth yn sicr, does dim all rwystro Siani’r Shetland!