Siani am byth (From Tivyside Advertiser)
Get involved: send your pictures, video, news and views by texting TS NEWS to 80360, or email
us
Siani am byth
9:20am Wednesday 8th April 2009 in News
Siani am byth
'SIANI AM BYTH' Yr awdures Anwen Francis o Gastellnewydd Emlyn yn cyflwyno copi o'i nofel newydd, 'Siani Am Byth' i Amberley Valentine sy'n un o'r ser ar y clawr newydd.
Bydd Anwen yn lansio'r nofel ar Ddydd Sadwrn Barlys yn siop Gymraeg Awen Teifi yn Aberteifi ar ddydd Sadwrn, 25ain o Ebrill.
Dyma fydd ei seithfed nofel i blant.
Mae disgwyl i Dewi Pws Morris fod yno i lansio'r gyfrol yn swyddogol canol dydd.'
Mae'n ddigwyddiad cyffrous iawn' medde Anwen. ' Mae'r nofel hon yn llawn hynt a helynt a Siani fach yn wynebu sawl her ar hyd y daith -o frwydro yn erbyn tywydd gwyllt, garw a gwlyb yma yng Ngheredigion i gystadlu yn sioe boblogaidd a byrlymus Aberteifi. S'dim diwedd ar ei champau!'Mae Amberley o bentre' Beulah, sy'n ymddangos ar y clawr hefyd wrth ei bodd yn merlota a chadw ceffylau.' Dw i'n browd iawn o Amberley fach. Mae hi'n gofalu ar ol cefnder Siani, Morgan Llwyd, ar hyn o bryd ac yn ei faldodi i'r ser. Roedd Amberley ei hunan yn seren hefyd wrth wenu at y camera!' dywedodd Anwen.Mae croeso cynnes iawn i chi ddod i'r lansiad. Bydd Anwen yno yn arwyddo copiau o'r nofel o 11yb ymlaen.