Bu tipyn o ffws am y gerdd a enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bu canmol mawr arni gan y beirniaid swyddogol ac answyddogol, ond nid pawb oedd yn croesawu awdl mor gyfoes ei hiaith a’i thestun.

Yn wir, halwyd llythyron i’r wasg yn cwyno am y geiriau rheg sy’n britho’r gerdd.

Roedd eraill wedyn yn cwyno nad oedden nhw’n deall yr holl gyfeiriadau yn y gerdd at wefannau ac apps (ee Twitter, Facebook, Snapchat, Tinder, Youtube ayyb).

Ond beth sydd gan awdur y gerdd ei hun, Gruffudd Owen o Gaerdydd, i ddweud am hyn oll? Wel, os dewch i gastell Aberteifi ar nos Iau, Medi 13, am 7.30yh, fe gewch chi glywed y cwbwl ganddo.

Gruff fydd gwestai arbennig dosbarth cynghanedd Ceri Wyn Jones y noson honno. Ond bydd y cyfarfod hwn yn agored i bawb, nid dim ond aelodau’r dosbarth.

Bydd dosbarth Ceri yn cwrdd bob nos Iau (fwy eu lai) wedi hynny tan ganol mis Rhagfyr, ac mae croeso i aelodau hen a newydd. Mae Ceri’n rhannu’r nosweithiau hynny’n ddwy: yr awr gyntaf yn wersi i’r dechreuwyr (7yh), a’r ail awr yn sesiwn i’r rhai mwy profiadol (8yh).

Dewch, da chi, felly i glywed Gruffudd Owen yn sôn am ei gerdd ‘Porth’, neu, wrth gwrs, i ymuno â’r dosbarth am y tymor. Neu, gorau oll, i wneud y ddau beth!