Ar ôl 35 mlynedd o drefnu gweithgareddau a chodi arian i drigolion Crymych penderfynodd aelodau presennol pwyllgor MAC/CLAM i ddirwyn y mudiad i ben.

Penderfynwyd i rannu'r arian oedd yn weddill yn y coffrau ariannol (sef £2,546.15) ymhlith elusennau a mudiadau lleol sef- Ras y Frenni; Ambiwlans Awyr Cymru; Ymatebydd Cyntaf Crymych; Aelwyd Crymych; Adran Crymych; Clwb Bowlio y Frenni; Gwyl Fwyd Crymych a Prosiect Cymunedol Crymych.

Hefyd cyflwynwyd basgedaid o flodau i Eirlys am ei gwasanaeth diflino dros y blynyddoedd.