Cynhaliwyd oedfa fendigedig i ddathlu 350 mlynedd yr achos Eglwys y Bedyddwyr Rhydwilym (1668-2018) ar brynhawn Sul, Gorffennaf 8.

Daeth tyrfa luosog o aelodau a ffrindiau o bell ac agos ynghyd ar ddiwrnod cynnes a braf o haf i ddathlu'r garreg filltir arbennig hon.

Roedd yr oedfa amrywiol yng ngofal medrus Siân Bryan a chafwyd gair o groeso twymgalon gan Beryl John, ysgrifenyddes. Derbyniwyd ymddiheuriadau a chyfarchion oddi wrth y Parch William Owen a darllenwyd cyfarchion y Parch Judith Morris, ysgrifennydd cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru.

Darllenodd y Parch Huw George rhan o'r Ysgrythur ac offrymwyd y weddi gan y Parch Ken Thomas.

Cymerwyd y casgliad gan Leighton Bryan, Meurig Davies, Islwyn Edwards ac Emyr John.

Llafarganwyd y pwnc gan rai o aelodau'r eglwys a chanwyd emyn o waith y Parch Peter Thomas gan y talentog Ffion Phillips, ‘Yn gymaint i ti gofio un o rhain’.

Cafwyd anerchiad difyr, llawn o hen atgofion melys gan Hafwen John, Y Bala.

Lansiwyd llyfryn newydd o hanes eglwys Rhydwilym yn ystod yr oedfa gan yr awdur Russell Evans. Cyflwynwyd y copi cyntaf o'r llyfryn i’r Parch Peter Thomas, Aberystwyth, gweinidog gwadd yr achlysur.

Cafwyd pregeth bwrpasol gan y Parch Peter Thomas a hel atgofion am hanes yr eglwys.

Canwyd pedwar emyn yn ystod yr oedfa o waith Llwyd, Thomas Jones a’r Parch Peter Thomas, a’r organyddes oedd Katrina Jenkins.

Wedi'r fendith cafwyd gwledd o de dathlu blasus yn y festri a baratowyd gan chwiorydd a chyfeillion yr eglwys. Paratôdd yr aelodau arddangosfa yn y Tŷ Capel o hanes yr eglwys ac i gofnodi'r dathlu gwerthwyd llechen unigryw o lun yr Eglwys a llyfryn ‘Rhydwilym 1668 – 2018’ gan Russell Evans.

Coronwyd y dathlu gyda chacen pen-blwydd arbennig o waith Mrs Janet Harries, Roseberry ac fe'i torrwyd gan y Parch a Mrs Peter Thomas yn absenoldeb y brawd Rhys Adams, Hendy-gwyn.

Diolchgodd yr eglwys bawb a gyfrannodd a gymerodd rhan ym mhob modd.