LLUNIAU: Julie John

Bu Eisteddfod Llandudoch yn un i’w chofio eleni eto. Deng mlynedd ar hugain ers ei sefydlu yn Chwefror 1988, mae’r digwyddiad yn dal i lwyddo i ddenu cystadleuwyr o ardal eang, ac i lwyfannu cystadlaethau brwd.

Y beirniaid oedd Siôn Goronwy, Y Bala, oedd yn gyfrifol am y cystadlaethau cerdd a Iola Wyn o Sanclêr fu’n tafoli’r llefarwyr. Y Prifardd Osian Rhys Jones, Caerdydd oedd yn gyfrifol am y cystadlaethau llenyddol. Canmolodd y ddau feirniad llwyfan safon uchel y cystadlu gydol y dydd.

Dwy gyn-athrawes leol fu’n beirniadu gwaith y plant eleni: sef Eluned Jones, Capel Newydd yn pori drwy’r llenyddiaeth a Joy Forster, Cenarth yn pwyso a mesur y gwaith celf.

Cafodd canlyniadau cystadlaethau cartref y plant eu cyhoeddi mewn Noson Wobrwyo arbennig yn Theatr Mwldan gyda llu o blant yno i dderbyn eu gwobrau, a gweld eu gwaith yn cael ei arddangos.

Enillwyd y ddwy brif wobr, sef Tlws WR Smart i’r llenor mwyaf addawol, a Thlws Coffa Kenneth Mower i’r arlunydd mwyaf addawol gan Bedwyr Thomas o Ysgol Llanychllwydog (Llên) a Finley o Ysgol Llandudoch (Celf). Cystadleuaeth newydd eleni oedd barddoniaeth i blant cynradd. Bu’n llwyddiant mawr, gyda 38 yn cystadlu.

Hefyd cynhaliwyd noson o feirniadaethau llên a Thalwrn y Beirdd yn Ysgol Llandudoch. Y Prifardd Osian Rhys Jones oedd yn rhoi canlyniadau’r llên, ac roedd Talwrn y Beirdd yng ngofal y Prifardd Ceri Wyn, a gamodd i’r adwy ar y funud olaf oherwydd salwch Eurig Salisbury.

Roedd tri thîm yn cystadlu: y Tîm Teg, Y Tîm Tecach a Thîm Pontgarreg. Tîm Pontgarreg oedd yn fuddugol ar ddiwedd gornest ddifyr.

Prifardd y gadair eleni oedd Martin Huws, o Gaerdydd am ei gerdd ‘Lleisiau’ oedd wedi ei hysgrifennu ar ffurf deialog rhwng tad a’i ferch, wrth iddi hi symud i Lundain a wynebu problemai.

Mae Martin yn fardd llwyddiannus gyda sawl cadair i’w enw gan gynnwys cadair arbennig Hedd Wyn a enillwyd ganddo llynedd ym Mhenbedw.

Enillydd Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc oedd Sioned Medi Howells o New Inn, Pencader. Disgybl 18 oed yn Ysgol Bro Teifi yw hi, ac fe gafodd eisteddfod brysur gan iddi gystadlu mewn nifer fawr o gystadlaethau llwyfan.

Mae Sioned wedi ennill nifer o dlysau ieuenctid, gan gynnwys yn Eisteddfod Ffermwyr Ifainc Sir Gaerfyrddin.

Llywydd yr eisteddfod eleni oedd Colin James, bellach o Dorchester, ond yn enedigol o Landudoch.

Yn grwt ifanc, bu’n eisteddfodwr prysur gan ennill llu o wobrau am ei ganu arbennig. Mae’n dal i feddu ar lais tenor hyfryd, fel y profodd wrth ganu Cân y Cadeirio yn ystod y seremoni nos Sadwrn.

Bu’n hynod o hael i’r eisteddfod eleni, gan gyfrannu bron y cyfan o’r cwpanau ar gyfer y cystadlaethau, yn ogystal â rhodd ariannol. Yn ei araith soniodd am ei amser yn tyfu i fyny yn Llandudoch.

CANLYNIADAU

Cystadlaethau Llên y plant

Hyd at Flwyddyn 2: 1af,Anna Dafydd, Ysgol Eglwyswrw; 2il,Cecil Lewis, Ysgol Eglwyswrw; 3ydd,Elin George, Ysgol Eglwyswrw. Cymeradwyaeth Uchel: Sebastian Tree, Ysgol Eglwyswrw a Nia Rees, Ysgol Eglwyswrw.

Blwyddyn 3 a 4: 1af, Fflur McConnell, Aberaeron; 2il, Elin Ingli Harries, Ysgol Eglwyswrw; 3ydd, Alaw Thomas, Ysgol Llanychllwydog.

Blwyddyn 5 a 6: 1af, Bedwyr Thomas, Ysgol Llanychllwydog; 2il, Efa Lewis, Ysgol Eglwyswrw; 3ydd,Ifan James, Ysgol Eglwyswrw. Cymeradwyaeth Uchel: Ioan Harries, Ysgol Eglwyswrw.

Barddoniaeth oed cynradd: 1af,Megan George, Ysgol Eglwyswrw; 2il, Manon Elster Jones, Ysgol Eglwyswrw; Cydradd 3ydd, Beca George, Ysgol Eglwyswrw a Gwyneth Lewis, Ysgol Eglwyswrw. Cymeradwyaeth Uchel: Cai James, Eglwyswrw a Lleucu Haf Thomas, Penparc.

Tlws Her WR Smart i’r llenor mwyaf addawol: Bedwyr Thomas, Ysgol Llanychllwydog.

Cystadlaethau celf y plant

Oed meithrin/Derbyn: 1af, Delor Thomas, Ysgol Llanychllwydog; 2il, Calvin Grota, Ysgol Llandudoch; 3ydd, Arthur Johnson-Wysocki, Ysgol Llandudoch.

Blwyddyn 1 a 2: 1af, Anna Dafydd, Ysgol Eglwyswrw; 2il, Alys Medi Humphreys, Ysgol Llandudoch; 3ydd, Isabel Simmons, Ysgol Llandudoch; Cymeradwyaeth uchel: Glain Phillips, Ysgol Eglwyswrw a Lili Foulkes-Roberts, Ysgol Llandudoch.

Blwyddyn 3 a 4: 1af, Finley, Ysgol Llandudoch; 2il Gwern Phillips, Ysgol Eglwyswrw; 3ydd, Matthew Evans, Ysgol Llandudoch. Cymeradwyaeth uchel: Lleucu Haf Thomas, Penparc.

Blwyddyn 5 a 6: 1af, Rhys Caygill, Ysgol Llandudoch; 2il, Harry Walker, Ysgol Llandudoch; 3ydd, Tomos Tagg, Ysgol Llandudoch.

Ffotograffiaeth oed cynradd: 1af,Joe Thomas, Ysgol Llandudoch; 2il, Danny Graham, Ysgol Llandudoch; 3ydd, Gwern Phillips, Ysgol Eglwyswrw.

Tlws Coffa Kenneth Mower i’r arlunydd mwyaf addawol: Finley, Ysgol Llandudoch.

YR EISTEDDFOD LEOL

Llefaru Bl 2 neu Iau: 1, Iolo Adams-lewis, Aberteifi.

Unawd Bl, 2 ac Iau: 1, Lili Foulke-Roberts, Ysgol Llandudoch; 2, Lilwen Ford, Ysgol Llandudoch; 3, Sophie Stock, Ysgol Llandudoch.

Llefaru Bl 3 a 4: Dyfan Lewis, Ysgol Eglwyswrw; 2, Ella Grug Humphreys, Llandudoch; Seren Adams-Lewis, Aberteifi.

Unawd Bl 3 a 4: 1, Shannon Goellnitz, Llandudoch; 2, Ella Grug Humphreys, Llandudoch.

Llefaru Bl 5 a 6: 1, Mared Vaughan, Eglwyswrw; 2, Harry Walker, Llandudoch. Unawd Bl 5 a 6: 1, Holly Forster, Llandudoch.

Grŵp Llefaru dan 12: 1, Ysgol Llandudoch; Parti/Côr dan 12: Ysgol Llandudoch.

Gwobr Her Nantypele i’r perfformiad unigol gorau yn y cystadlaethau lleol: Dyfan Lewis, Eglwyswrw.

EISTEDDFOD YR IFANC

Cystadlaethau llenyddol

Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc: Sioned Medi Howells, New Inn, Pencader.

Darn o ryddiaith 11-16 oed: Lefi Dafydd, Eglwyswrw. Barddoniaeth 11-16: Hedd Dafydd, Llangeitho.

Llefaru oed derbyn ac iau: 1, Celyn Fflur Davies, Llandyfriog; 2, Delor Celyn Thomas, Cwm Gwaun; 3, Gruffydd Rhys Davies, Llandyfriog.

Unawd Bl 2 ac Iau: 1, Celyn Fflur Davies, Llandyfriog; 2, Gruffydd Rhys Davies, Llandyfriog; Delor Celyn Thomas, Cwm Gwaun.

Llefaru Bl 1 a 2: 1, Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni. Unawd Bl 1 a 2: 1, Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni; 2, Alaw Anna Dafydd, Eglwyswrw; 3, Ilid Jenkins, Llanfihangel-ar-arth.

Gwobr Her Calon Ifanc i’r perfformiad llwyfan gorau i’r plant lleiaf: Celyn Fflur Davies, Llandyfriog.

Llefaru Bl 3 a 4: 1, Dyfan Lewis, Eglwyswrw; 2, Hawys Davies, Brynhoffnant; 3, Fflur McConnell, Aberaeron.

Unawd Bl 3 a 4: 1, Fflur McConnell, Aberaeron; 2, Alaw Thomas, Cwm Gwaun.

Llefaru Bl 5 a 6: 1, Ioan Mabbutt, Aberystwyth; 2, Alwena Owen, Llanllwni; Erin Griffiths, Castell Newydd Emlyn.

Unawd Bl 5 a 6: Ioan Mabbutt, Aberystwyth; 2, Alwena Owen, Llanllwni.

Alaw Werin dan 12: 1, Alaw Mair Owen, Llanllwni; 2, Ioan Mabbutt, Aberystwyth; 3, Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni.

Canu Emyn dan 12: 1, Fflur McConnell, Aberaeron; 2, Ioan Mabbutt, Aberystwyth; Alwena Owen, Llanllwni.

Cerdd Dant dan 12: 1, Ioan Mabbutt, Aberystwyth; 2, Alwena Owen, Llanllwni; 3, Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni a Fflur McConnell, Aberaeron.

Unawd Piano dan 12: 1, Lefi dafydd, Eglwyswrw; 2, Alwena Owen, Llanllwni.

Unawd Offeryn Cerdd dan 12: 1, Lefi Dafydd, Eglwyswrw; 2, Alwena Owen, Llanllwni; 3, Andrew Johnson, Llandudoch a Gwilym Rees, Llandudoch.

Gwobr Heri Iwan a Siân Davies i’r perfformiad llwyfan gorau dan 12: Ioan Mabbutt, Aberystwyth.

Llefaru 11-16: 1, Fflur James, Eglwyswrw; 2, Lefi Dafydd, Eglwyswrw.

Unawd 11-16 (Cwpan Her Mair Evans) 1, Fflur James, Eglwyswrw; 2, Guto Jenkins, Llanfihangel-ar-arth; 3, Teleri Selby, Ferwig.

Alaw Werin dan 16: 1, Fflur James, Eglwyswrw.

Canu emyn dan 16: 1, Fflur James, Eglwyswrw.

Unawd offeryn cerdd: 1, Annest Davies, Mwnt.

Llefaru unigol 16-19: 1, Sioned Medi Howells, New Inn, Pencader; 2, Ffion Thomas, Crymych.

Unawd 16-19 (Cwpan Her Rhiannon Lewis): 1, Sioned Howells, New Inn; 2, Ffion Thomas.

Llefaru 19-26: 1, Heledd Besent, Dihewyd.

Unawd 19-26: 1, Heledd Besent, Dihewyd.

Alaw Werin 16-26: 1, Heledd Besent, Dihewyd; 2, Sioned Medi Howells, New Inn.

Unawd Piano 16-26: 1, Ffion Thomas, Crymych.

Deuawd 12-26: 1, Fflur James, Eglwyswrw a Mallt Ladd Lewis, Boncath.

EISTEDDFOD YR HWYR

Cystadlaethau llên

Y Gadair: Martin Huws, Caerdydd.

Telyneg: Gaenor Mai Jones, Pentre’r Eglwys, y Rhondda.

Soned: Rachel James, Boncath.

Pedwar Pennill Telyn/Triban: Mary B Morgan, Llanrhystud.

Englyn: Rachel James, Boncath.

Limrig: D Handel Evans, Bodffordd, Ynys Môn.

Cân Ddigri: Mary B Morgan, Llanrhystud.

Stori fer: Richard Lloyd Jones, Bethel, Caernarfon.

Cystadleuaeth Clebran: John Gwynn Jones, Capel Seion, Aberystwyth.

Cyfansoddi Emyn-dôn: Dr Godfrey Williams, Pontcysyllte, Llangollen

Cystadlaethau Dysgwyr – Lefel mynediad: Lyndsay Morgan, Ferwig. Lefel Canolradd: Penny Poulson, Llandudoch. Lefel uwch: Wendy Evans, Aberteifi.

Cân o sioe gerdd: 1, Heledd Besent, Dihewyd; 2, Ffion Thomas, Crymych; Sioned Medi Howells, New Inn.

Canu emyn 12-60 oed: 1, Carys Richards, Caerfyrddin; 2, Heledd Besent, Dihewyd; 3, Ffion Thomas, Crymych.

Darllen darn o’r ysgrythur ar y pryd: 1, Sioned Howells, New Inn; 2, Maria Evans, Alltwalis; 3, Catrin Thomas a Sian Elin Thomas, Hermon.

Darllen i ddysgwyr: 1, David Beman, Blaenporth; 2, Penny Poulson, Aberteifi.

Canu emyn dros 60: 1, Marianne Powell, Llandre; 2, Dafydd Davies, Castell Newydd Emlyn; 3, Catrin Thomas, Hermon.

Prif gystadleuaeth lefaru: 1, Sioned Howells, New Inn; 2, Angharad Jones, Caerfyrddin; 3, Heledd Besent, Dihewyd.

Cyflwyniad ysgafn ar lafar: 1, Sioned Medi Howells, New Inn.

Côr Llandudoch: 1, Seingar, Caerfyrddin; 2, Côr Crymych a’r Cylch.

Yr Hen Ganiadau: 1, John Davies, Llandybie; 2, Marianne Powell, Llandre; 3, Lewis Richards, Cross Hands.

Her Unawd: 1, John Davies, Llandybie; 2, Marianne Powell, Llandre; 3, Heledd Besent, Dihewyd; 4. Sioned Howells, New Inn; 5. Gerwyn Rhys, Porthyrhyd.