Cynhaliwyd diwrnod o hwyl i’r gymuned yn Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre ar ddydd Gwener.

Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn gyda llawer o bobl wedi ymuno yn yr hwyl ac ymweld â'r holl stondinau.

Heb os seren y diwrnod oedd Sali Mali! Diolchwyd i bawb a wnaeth helpu a chefnogi a'r bobl a ddaeth â stondin a'r trefnwyr.

Y gobaith yw y bydd y diwrnod yn ddod yn ddigwyddiad blynyddol.