Taflwyd cysgod ar gyfarfod Ebrill Cymdeithas Ceredigion gan farwolaeth drist ac annhymig y llywydd, Emyr Hywel, Tre-saith. Ond yn unol â dymuniadau ei weddw, Deanna, a’r teulu, aeth y digwyddiad ymlaen a hynny ar ddiwrnod ei angladd.

Emyr a oedd wedi dewis ein hymwelydd ar gyfer y noson, sef yr hanesydd cymdeithasol o fri, Catrin Stevens, Abertawe, awdures rhestr eang o lyfrau ac erthyglau yn bennaf ar arferion ein hynafiaid, megis 'Arferion Caru' / 'Welsh Courting Customs'.

Ei thestun y tro hwn oedd ffrwyth prosiect diweddar ar wragedd a gyflogid yn ffatrïoedd Cymru yn ail hanner y ganrif ddiwethaf, Lleisau o lawr y ffatri.

Cyn i’r gwaith gael ei symud i wledydd y trydydd byd tua diwedd y ganrif roedd ffatrïoedd a oedd yn cyflogi merched yn bennaf i’w cael ym mhob man yng Ngymru, megis Dewhirst yn Aberteifi, er taw yn y De-ddwyrain y lleolid y rhan fwyaf ohonynt.

Roedd gwaith y merched yn y ffatrïoedd ar y cyfan yn galed ac yn undonog ac weithiau, yn yr oes cyn y pwyslais ar iechyd a diogelwch, yn beryglus. Roedd y merched yn arfer dygymod ag anafiadau eithaf difrifol, megis gwthio nodwydd trwy’r bys mewn ffatri dillad, fel petai’n rhan anochel o’r gwaith bob dydd.

Ac er gwaethaf yr amodau anodd roedden nhw’n gwerthfawrogi’r unig cyfle yn aml yn eu hardaloedd i ferched heb lawer o addysg ennill arian i wella safon byw eu teuluoedd. Yn aml, roedd isddiwylliant cryf ymhlith gweithwyr yn y ffatrïoedd hyn ac iddo, er enghraifft, ddefodau derbyn cyhyrog.

Mewn un ffatri ar ddiwrnod gwaith cyntaf llanc o weithiwr, byddai’r dynion yn mynd ag ef i adran y merched a bydden nhw’n tynnu ei ddillad i gyd, ei orchuddio ag olew a blawd a’i adael ef felly am weddil y dydd. Roedd yr aelodau yn ddiolchgar iawn i Catrin am gyflwyniad llawn bywyd gyda lluniau trawiadol o’r ffatrïoedd.

Cyn ei sgwrs cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol y gymdeithas ac etholwyd yn unfrydol Carol Byrne Jones yn llywydd ar gyfer y tymor nesaf gyda Robyn Tomos, Talgarreg, yn islywydd iddi.