Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cyngor Eglwysi Rhyddion Aberteifi a'r Cylch yng Nghapel Tabernacl Aberteifi, ar ddydd Sul, Mawrth 18, mewn blwyddyn arbennig wrth i'r corff edrych ymlaen at ddathlu 50 mlynedd.

Dewiswyd emynau cynulleidfaol a oedd ag arwyddocad arbennig i'r llywydd John Adams-Lewis, gan gynnwys emyn a gyfansoddwyd gan berthynas iddo, sef Mrs Mair James. Cafwyd cyfeiliant o safon uchel ar yr organ gan Rhidian Evans.

Darllenwyd o'r Ysgrythur gan Mr Hywelfryn Jones, a chafwyd gweddi gan Mr Dan Ebeneser, sef dau o flaenoriaid Capel Tabernacl. Offrymwyd gweddi gan y Parch Irfon Roberts.

Derbyniwyd adroddiad manwl a chadarnhaol parthed cyllid y cyngor eglwysi, ynghyd â gwybodaeth am yr holl elusennau a gefnogwyd yn ystod y flwyddyn gan David Peregrine, y trysorydd. Aethpwyd ymlaen wedyn i ethol a chyflwyno'r llywydd a'r is-lywydd ar gyfer 2018-19.

Gwahoddwyd y gynulleidfa i gadarnhau ethol David Peregrine yn llywydd a Anne Hughes yn is-lywydd. Derbyniodd David Peregrine y gwahoddiad i ail-ymaflyd yn llywyddiaeth ar gyfer blwyddyn bwysig dathlu hanner can mlynedd ers ei sefydlu.

Nodwyd bod David wedi bod ynghlwm â gwaith y cyngor ers y cychwyn cyntaf, gan wasanaethu fel llywydd yn 1981-82 ac fel trysorydd ers dros 35 mlynedd. Ef yn wir fu prif gymhellwr a chynheiliad mwyaf dyfal gweithgarwch y cyngor eglwysi yn yr ardal.

Nododd y llywydd hefyd fod yr is-lywydd newydd yn wybyddus i bawb fel person ffyddlon a diwyd, yn ddiacon ac yn organydd yng Nghapel Mair. Wrth annerch y gynulleidfa , cyfeiriodd David at y dyddiau cynnar, gan ddwyn i gof y cyfarfod cyntaf pryd y buwyd yn trafod am tua thair awr.

Yn dilyn arwyddo'r Beibl gan y llywydd newydd, cafwyd anerchiad gan John Adams-Lewis a ddewisodd sôn am ddau berson dylanwadol o fro ei febyd, sef ardal Llanboidy, Sancler a Hendy-gwyn-ar-Daf . Yn gyntaf soniodd am Hywel Dda, awdur y cyfreithiau cyntaf yn y Gymraeg, yn dyddio o'r 10fed ganrif ac sydd â chyfoesedd a pherthnasedd anhygoel hyd y dydd heddiw.

Yn ail, trafodwyd ganddo gamp arbennig Griffith Jones Llanddowror a sefydlodd ysgolion teithiol ar draws y wlad ac a wnaeth cymaint i ddysgu llythrennedd i bobl gyffredin. Wrth gloi'r oedfa, offrymwyd gweddi gan y Parch Llunos Gordon, a gwahoddwyd pawb i'r festri lle y darparwyd te a danteithion drwy haelioni John a Morina Adams-Lewis. Casglwyd £109 tuag at Ymddiriedolaeth Cancr yr Arddegau.

Ar ddydd Gwener y Groglith, cynhaliwyd oedfa gymun y Groglith yng Nghapel Bethania dan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion Aberteifi a'r Cylch.

Y llywydd oedd David Peregrine a'r organydd oedd Rhidian Evans. Croesawodd y llywydd y pregethwr gwâdd yn gynnes, sef y Parch Carys Ann Morris-Lewis, gan nodi gyda gwerthfawrogiad diffuant ei gwasanaeth hir dros 30 mlynedd i'r ardal.

Prif fyrdwn neges y Parch Carys Ann oedd dadansoddiad o'r hyn a welwn ni yn yr unfed ganrif ar hugain pan edrychwn ar y Groes, sef creulondeb, cariad a chymod. Cysylltwyd creulondeb y croeshoeliad gyda'r holl ormes, trais ac anghyfiawnder a welwn yn y byd heddiw.

Diolchodd y llywydd am oedfa fendithiol a chofiadwy. Offrymwyd y fendith gan hybarch weinidog Bethania, y Parch Irfon Roberts. Casglwyd £170 tuag at waith Cymdeithas Clefyd y Siwgr - Diabetes UK: Cymru.