Cynhaliwyd noson wobrwyo flynyddol Ysgol y Preseli, Crymych ar nos Fercher, Mawrth 28, yn Theatr y Gromlech er mwyn anrhydeddu cyn-ddisgyblion a disgyblion yr ysgol ar eu llwyddiannau.

Llywyddwyd y noson gan gadeirydd y llywodraethwyr Mr Des Davies. Traddodwyd yr anerchiad blynyddol gan y pennaeth Mr Michael Davies.

Y gŵr gwadd eleni oedd Sion Jenkins, cyn-ddisgybl o’r ysgol sydd bellach yn adnabyddus i bawb fel cyflwynydd y gyfres ‘Ein Byd’ ar S4C. Cafwyd ganddo anerchiad didwyll a chofiadwy. Sion hefyd fu’n gyfrifol am gyflwyno’r tystysgrifau a’r gwobrau yn ystod y noson.

Mwynhawyd eitemau cerddorol gan barti bechgyn iau yr ysgol a hefyd Nia Lloyd o flwyddyn 13 a fu’n swyno’r gynulleidfa gyda’u perfformiadau safonol.

Bu Mr T Phillips a Mrs M Williams yn hyfforddi’r parti. Cydlynwyd y dosbarthu gwobrau gan ddirprwy’r ysgol, Mrs Iola Phillips. Gwnaethpwyd y diolchiadau gan brif swyddogion yr ysgol sef Hannah Matthews a Thomas Rees. Mrs Marie Williams oedd yn gyfrifol am y blodau a Mrs Delyth Davies a’i thîm o weithwyr fu’n gyfrifol am y lluniaeth ysgafn blasus ar ddiwedd y noson.

Diolchwyd hefyd i staff y swyddfa am gwblhau’r trefniadau gweinyddola'r holl noddwyr y gwobrau am eu haelioni.