Mici Plwm yn cyflwyno siec am £5,000 i Ysgol y Cwm Trefelin ym Mhatagonia drwy law Isaias Grandis (yn wreiddiol o’r Wladfa ond sy’n byw yn Llanddarog erbyn hyn). Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Gymdeithas yr Hoelion Wyth gyflwyno siec am £5,000 i Ysgol y Cwm, codwyd yr arian drwy ymgyrch Meibion y Mimosa, sef drwy werthu gwin Malbec P15 o Batagonia.