Mae cyffro mawr yn Sir Benfro wrth i gystadleuwyr Cwis Dim Clem frwydro am y safle cyntaf yn y gystadleuaeth flynyddol a drefnir gan Fenter Iaith Sir Benfro.

Fe wnaeth dros ddeg o ysgolion gymryd rhan – o Arberth yn y de i Eglwyswrw yng ngogledd y sir ac ymhen dwy wythnos ar Fawrth 5, bydd ffeinal y sir yn cael ei chynnal yn Ysgol y Frenni, Crymych.

Yn wreiddiol, roedd pedair rownd a’r ysgolion hynny a oedd mewn tafliad carreg i’w gilydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Yr ysgolion wnaeth gymryd rhan oedd Eglwyswrw, Y Frenni, Brynconin, Bro Ingli, Arberth, Maenclochog, Glan Cleddau, Hafan y Môr, Llanychllwydog, Casmael a Gelli Aur gydag ysgolion Eglwyswrw a’r Frenni gyda sgôr cyfartal o 53; Brynconin gyda 52 o bwyntiau a Bro Ingli gyda 46 o bwyntiau yn mynd ymlaen i’r ffeinal.

Meddai Dafydd Vaughan, swyddog ieuenctid Menter Iaith Sir Benfro: “Mae’r plant wedi cael lot o sbort ar hyd y daith, ac wedi bod yn frwd iawn. Mae nhw wedi mwynhau’r profiad o weithio fel tîm ac wedi cael y cyfle o ehangu eu gwybodaeth ar amryw o bynciau.”

Bydd y ffeinal rhanbarthol yn digwydd ar Fawrth 20 yng Nghaerfyrddin gyda’r mentrau oll yn y gorllewin yn cymryd rhan.