Gan Anwen Francis

Mae Ysgol Beulah yn gant mlwydd oed eleni ac mae penwythnos o ddathliadau yn cael eu trefnu ar Fedi 30 a Hydref 1.

Bydd yr ysgol ar agor rhwng 3pm-6pm ar y ddau ddiwrnod er mwyn cael gweld hen luniau ac ail-ymweld â’r safle. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael hefyd ar y ddau ddiwrnod, yn ystod yr un amser, yn festri’r pentref (gyferbyn â’r ysgol).

Mae diwrnod hwyl i’r teulu oll yn cael ei drefnu ar ddydd Sadwrn yn y parc chwarae. Bydd stondinau, gêmau amrywiol o ddegawdau gwahanol; barbeciw a bydd tân gwyllt am 7pm i orffen y diwrnod.

Yna, ar y dydd Sul, bydd cyngerdd yng Nghapel Beulah am 6.30pm, fydd yn cynnwys eitemau gan artistiad lleol sydd yn gyn-ddisgyblion o’r ysgol.

Mae'r ysgol yn annog pobol i rannu'r neges gydag unrhyw un sydd wedi bod yn gysylltiedig gydag Ysgol Beulah.

"Bydd hi’n braf gweld cyn-ddisgyblion, staff a rhieni yn dod ynghyd i ddathlu yr achlysur arbennig hwn. Edrychwn ymlaen yn fawr i’ch croesawu yn ôl i’ch cynefin," meddai llefarydd.