SIARADWR gwadd yn nharlith flynyddol Cymdeithas Waldo yng Nghapel Hermon, Abergwaun, ar nos Wener ola'r mis fydd y beirniad llenyddol Robert Rhys o Brifysgol Abertawe.

Mae’r darlithydd, sy’n byw ym Mhorth-yr-hyd, yn gweithio ar astudiaeth o’r llenor a’r cenedlaetholwr D J Williams ac eisioes wedi cyhoeddi nifer o lyfrau’n gysylltiedig â Waldo Williams – a’i destun fydd 'Ailgodi’r ty: cyfeillach D J a Waldo’.

Roedd Waldo a D J yn gyfeillion pennaf am eu bod yn rhannu’r un dyheadau. Ond medrai’r berthynas fod yn stormus ar adegau pan fyddai Waldo’n galw heibio’r Bristol Trader, cartref D J a Siân, yn Abergwaun. Bydd Côr Abergwaun yn cymryd rhan yn y noson hefyd.

Ac ers dechrau mis Awst gwelir dwy arddangosfa yn y dref sy’n ymwneud â’r ddau genedlaetholwr, y naill yn Llyfrgell y Dref a’r llall yn Oriel Peppers.

Mae’r ddwy yn cynnwys llythyrau o eiddo Waldo at D J a llythyrau o’i eiddo at ei nai, Gareth Francis, yn ogystal â lluniau gan artistiaid yn dehongli cerddi Waldo. Ewch heibio i’w gweld cyn iddyn nhw gau ar Fedi’r 29.

Roedd Robert Rhys yn gyd-olygydd y casgliad cyflawn o farddoniaeth Waldo, ‘Waldo Williams Cerddi 1922-1970’, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2014.

Roedd hefyd yn gyfrifol am olygu’r gyfrol ‘Waldo Williams’ sef casgliad o ysgrifau a gyhoeddwyd gan Wasg Christopher Davies fel rhan o Gyfres y Meistri yn 1981.

Yn 1992 cyhoeddodd Gwasg Gomer ei gyfrol ‘Chwilio am Nodau’r Gân: Astudiaeth o Yrfa Lenyddol Waldo Williams hyd at 1939’.